Gwobr Addysg Uwch y Frenhines
Yr Athro Noel Lloyd a'r Athro Wayne Powell yn derbyn y wobr oddi wrth y Frenhines a Dug Caeredin. Llun drwy law BCA Ltd.
22 Chwefror 2010
Cyflwyno Gwobr Addysg Uwch y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth
Bu
aelodau o staff a myfyrwyr ym Mhalas Buckingham ddydd Gwener 19eg
Chwefror, i dderbyn Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i
Brifysgol Aberystwyth. Cyflwynwyd medal a thystysgrif gan y Frenhines a
Dug Caeredin i’r Athro Noel Lloyd, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth
ac i’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.
Mae’r wobr yn
cydnabod gwaith gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol,
Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) sydd wedi cyfuno gwaith ymchwil hanfodol i
eneteg planhigion gyda thechnegau bridio planhigion yn llwyddiannus er
mwyn datblygu mathau o blanhigion sydd yn fasnachol lwyddiannus ac yn
ymateb i’r heriau sydd yn wynebu cymunedau ar draws y byd, sef sicrwydd
cyflenwadau bwyd, dŵr ac ynni.
Mae'r rhain yn cynnwys gweiriau
pori uchel eu siwgr sydd yn hawddach eu treulio, meillion gwyn sy’n fwy
gwydn a chyson, ceirch o safon uchel, gweiriau chwaraeon gwell, a miled
perlog (pearl millet) sydd yn medru gwrthsefyll heintiau ac a
ddatblygwyd gyda bridwyr yn India.
Mae’r wobr hefyd yn cydnabod y
ffordd y mae dysgu ac ymchwil ôl-raddedig mewn bridio planhigion a’r
gwyddorau biolegol yn IBERS, sydd yn cyfuno sgiliau ymarferol â
thechnegau genetig uwch, yn helpu i greu cenhedlaeth newydd o fridwyr
planhigion.
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd,
“Rwyf yn falch iawn
fod Gwobr y Frenhines wedi ei dyfarnu i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n
gadarnhad o bwysigrwydd y gwaith sydd yn cael ei wneud yn Sefydliad y
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
“Mae’r Brifysgol yn
ymroddedig i ymateb i’r materion pwysig ym maes gwyddor tir, ac er mwyn
gwneud hynny mae gofyn magu ystod eang o arbenigedd. Mae yna gysylltiad
di-dor rhwng ymchwil gwyddonol a dyfeisgarwch, ac mae trosglwyddo
gwybodaeth wyddonol a thechnegol er mwyn cefnogi diwydiannau’r tir a
datblygu polisi cyhoeddus yn nod pwysig iawn. Llongyfarchiadau cynnes
iawn i bawb sydd yn ymwneud â’r gwaith yma sydd wedi arwain at
gydnabyddiaeth mor nodedig.”
Dywedodd yr Athro Wayne Powell:
“Mae’n
bleser gennyf dderbyn y wobr bwysig hon ar ran y gwyddonwyr a’r staff
medrus ac ymroddgar yn IBERS. Mae’n gydnabyddiaeth o ymroddiad a
gweledigaeth criw o bobl o’r radd flaenaf sydd wedi bod yn gweithio ar
fridio planhigion yn Aberystwyth dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac a
adeiladodd ar sail gwaith sydd yn ymestyn dros y 91 mlynedd ers i’r
Brifysgol sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru yn 1919.”
“Mae’n
fraint i IBERS gael adeiladu ar y seiliau yma o wybodaeth, medrusrwydd a
chyraeddiadau er mwyn cofleidio ymchwil sydd yn cael ei yrru gan yr
angen i ddarganfod a datrys er mwyn cael atebion i rai o’r anghenion
enbyd sydd yn wynebu’r blaned.”
Roedd Irene Griffiths yn un o’r
myfyrwyr a gafodd eu gwahodd i Balas Buckingham. Yn dod o Henffordd, mae
Irene yn cwblhau ei doethuriaeth PhD ar hyn o bryd, ac wedi bod yn
gweithio fel rhan o’r tim bridio ceirch; fe ddywedodd hi “ Roedd yn
brofiad ffantastig. Fe gwrddom ni a’r Frenhines, Dug Caeredin a’r
Dywysoges Frenhinol. Roeddwn yn edrych ymalen yn arw at fynd, chefais i
ddim fy siomi.”
Mae Gwobr Addysg Uwch a Phellach y Frenhines yn
cael ei dyfarnu bob yn ail flwyddyn i sefydliadau addysg uwch a phellach
ar draws y Deyrnas Gyfunol am waith o ragoriaeth eithriadol. Mae’n
dathlu llwyddiant o safon fyd-eang ac yn adlewyrchu amrywiaeth a safon
uchel y gwaith sydd yn cael ei wneud yn ein prifysgolion a’n colegau
addysg bellach.