Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig
Simon Payne a dderbyniodd ysgoloriaeth APRS ar gyfer ei waith yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
22 Ionawr 2010
Mae Prifysgol Aberystwyth yn galw ar i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer doethuriaeth gyflwyno’u ffurflenni cais mor fuan â phosib er mwyn cael eu hystyried ar gyfer ysgoloriaeth sy’n werth dros £50,000 dros gyfnod o dair blynedd.
Mae’r Brifysgol yn cynnig 12 Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig sy’n cynnwys costau dysgu am hyd at dair blynedd, lwfans flynyddyol oddeutu £13,290 a’r hawl i wneud cais am fynd i gynadleddau.
Y dyddiad cau yw 1 Mawrth 2010, ac eithrio’r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol a’r Sefydliadau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear lle mae gofyn i geisiadau ddod i law erbyn 29 Ionawr 2010.
Mae Simon Payne yn astudio ar gyfer gradd ddoethuriaeth yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Aberystwyth.
“Doedd fy nghais cyntaf ar gyfer yr ysgoloriaeth yn 2006 ddim yn llwyddiannus felly bu’n rhaid i mi ariannu fy hunan yn ystod blwyddyn gyntaf fy noethuriaeth. O ganlyniad, bu’n rhaid i mi gofrestru fel myfyriwr rhan-amser a threulio gweddill fy amser yn gweithio er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd. Roedd canolbwyntio ar fy ngwaith ymchwil tra’n gweithio ac yn dysgu i ennill arian yn dipyn o her ond yn ffodus, fe gyflwynais gais cryfach yn 2007 a’r tro hwn, bues i’n llwyddiannus,” meddai Simon sy’n ymchwilio i seicoleg athletwyr a sut maen nhw’n rheoli eu delwedd cyhoeddus.
“Mae’r manteision a ddaw yn sgil yr APRS yn enfawr. Yn ogystal â thalu eich ffioedd dysgu a darparu lwfans byw hael iawn, mae hefyd yn cynnig cymorth gyda’r gost o deithio i weithdai, cynadleddau a digwyddiadau eraill sy’n berthnasol i’ch maes ymchwil. Byddem yn annog unrhyw ddarpar fyryrwyr PhD i fynd ati i gyflwyno’u cais – ac yn eu hannog hefyd i beidio â chefnu ar eu hastudiaethau os nad ydyn nhw’n llwyddiannus y tro cyntaf.”
Mae’r gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd sy’n dymuno astudio am radd PhD amser llawn yn Aberystwyth yn yr adrannau canlynol:
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Astudiaethau Gwybodaeth
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Celf
Cyfrifiadureg
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Hanes a Hanes Cymru
Ieithoedd Ewropeaidd
Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Mathemateg a Ffiseg
Rheolaeth a Busnes
Seicoleg
Y Gyfraith a Throseddeg
Caiff myfyrwyr tramor (o’r tu allan i’r UE) sy’n dymuno astudio am radd PhD amser llawn yn un o’r adrannau uchod gael eu hystyried ar gyfer Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig Rhyngwladol Aberystwyth.
Mae’r brifysgol yn cynnig chwech ysgoloriaeth ryngwladol bob blwyddyn a’r dyddiad cau yw 1 Mawrth 2010, ac eithrio’r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol a’r Sefydliadau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear lle mae gofyn i geisiadau ddod i law erbyn 29 Ionawr 2010.
Am fanylion pellach, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedig: Ffôn: 01970 622270, Ffacs: 01970 622921, E-bost: pg-admissions@aber.ac.uk neu dilynnwch y ddwy ddolen gyswllt sydd yn y golofn ar y dde yn y dudalen hon.