Unedau Creadigol Aber ar restr fer gwobrau dinesig
Yr Unedau Creadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
20 Ionawr 2010
Unedau Creadigol Aber ar restr fer gwobrau dinesig
Mae’r Unedau Creadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy’n adran o Brifysgol Aberystwyth, wedi eu gosod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau yr Ymddiriedolaeth Ddinesig a gynhelir 12 Mawrth 2010 yn Neuadd San Siôr yn Lerpwl.
Y datblygiad hwn, a ddyluniwyd gan gwmni blaenllaw Heatherwick Studio, yw’r unig brosiect o Gymru i gyrraedd y rhestr fer eleni.
Rhoddir y gwobrau i brosiectau sy’n fuddiol yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac sy’n gwneud cyfraniad eithriadol tuag at ansawdd a golwg safleoedd o fewn yr amgylchedd.
Y pensaer a’r cyflwynydd teledu George Clarke (Channel 4 – The Home Show) fydd yn cyflwyno’r gwobrau a daw’r anerchiad allweddol gan Chris Wilkinson OBE RA, sefydlydd Penseiri Wilkinson Eyre.
Dywed George Clarke: "Pleser o’r mwyaf yw cael cyflwyno Gwobrau’r Ymddiriedolaeth Ddinesig eleni sy’n anelu at gydnabod rhagoriaeth mewn dylunio tra’n cael effaith bostif ar y cymunedau lleol o’u cwmpas. O fwytai i eglwysi, tai i ysbytai, safleoedd cyhoeddus i gelf cyhoeddus, mae Gwobrau’r Ymddiriedolaeth Ddinesig yn cynnig cyfle i ddathlu llwyddiannau cymunedol ar lefel wir genedlaethol."
Nod prosiect yr Unedau Creadigol yw datblygu rôl Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth fel lleoliad creadigol ar gyfer busnesau celf, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiaid a chrefftwyr.
Mae’r cyfuniad o fusnesau celf ac artistiaid yn nodwedd unigryw o’r datblygiad hwn gyda thenantiaid newydd a sefydledig yn cydweithredu mewn amgylchedd greadigol a symbylol er mwyn cyflawni eu potensial economaidd a chreadigol.
Mae’r prosiect hefyd yn gysylltiedig gydag Uned Fasnacheiddio a Chynllun Ymestyn y Brifysgol, a strategaeth y Cynulliad i roi blaenoriaeth i ddatblygu sector y diwydiannau creadigol.
Gwireddwyd y prosiect, sy’n werth £1.4 million, yn sgil cefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth, Cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.
Mae’r holl unedau yn llawn gydag amrediad o fusnesau creadigol newydd a sefydledig yn gweithio mewn meysydd gan gynnwys cynhyrchu teledu, cerddoriaeth a gwaith digidol, cyhoeddi llyfrau, ac artistiaid gweledol proffesiynol. Gyda’u gorffeniad ‘dur crychlyd’ nodweddiadol, mae diwyg unigryw yr undedau wedi denu sawl cwmni creadigol sy’n edrych am leoliad yr un mor greadigol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Alan Hewson: "Mae’n newyddion gwych bod ein prosiect wedi cael ei osod ar restr fer ar gyfer gwobrau mor uchel eu bri. Gyda sector y diwydiannau creadigol yn ffynnu o fewn economi’r DU, mae’n hanfodol bod y math yma o gyfleusterau yn bodoli i gefnogi’r sector ac i greu amgylchedd ysbrydoledig a chreadigol lle y gellir gweithio ar y cyd."
I weld y rhestr fer lawn, neu i archebu tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo, ewch i www.civictrustawards.org.uk.