Time yn cydnabod camp robot
Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir
05 Ionawr 2010
Darganfyddiad gan robot o Aber oedd un o’r pedwar pwysicaf yn 2009 yn ôl Time
Yn ôl Time Magazine, y darganfyddiad o wybodaeth wyddonol newydd gan ‘Adam’, y gwyddonydd robotaidd gafodd ei ddatblygu gan yr Athro Ross King â’i gydweithwyr yn yr Adran Gyfrifiadureg, oedd pedwerydd darganfyddiad gwyddonol mwyaf arwyddocaol 2009.
Cafodd y darganfyddiad o wybodaeth syml ond newydd am genomeg burum pobyddion, Saccharomyces cerevisiae, organeb y mae gwyddonwyr yn ei ddefnyddio i fodelu systemau bywyd mwy cymhleth, ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science ym mis Ebrill 2009.
O dan arweiniad yr Athro King, cynlluniwyd Adam gan ymchwilwyr o Aberystwyth a Phrifysgol Caergrawnt Adam i gyflawni pob cam o’r broses wyddonol yn awtomatig, fel nad oedd angen rhagor o ymyrraeth gan bobl.
Gan ddefnyddio gwybodaeth artiffisial, damcaniaeth Adam oedd bod gan rai genynnau mewn burum pobyddion ensymau penodol sy’n cataleiddio adweithiau biocemegol mewn burum. Yna, lluniodd y robot arbrofion i brofi’r rhagfynegiadau hyn, cynhaliodd yr arbrofion gan ddefnyddio roboteg mewn labordy, dehonglodd y canlyniadau ac ailadroddodd y cylch.
Cadarnhawyd bod damcaniaethau Adam yn newydd ac yn gywir wedi i’r ymchwilwyr gynnal yr un arbrofion â llaw a chyrraedd yr un casgliadau. Yn sgil y cyhoeddiad tannwyd diddordeb byd eang yn y gwaith.
Ar y pryd dywedodd yr Athro King: “Oherwydd bod organebau biolegol mor gymhleth, mae’n bwysig sicrhau bod manylion arbrofion biolegol yn cael eu cofnodi’n fanwl iawn. Mae hyn yn waith anodd a llafurus i wyddonwyr o gig a gwaed ond mae’n hawdd i Wyddonwyr Robotaidd.”
“Y gobaith yn y pen draw yw cael timau o wyddonwyr dynol a robotaidd i weithio gyda’i gilydd mewn labordai”.
Mae Adam yn dal i fod yn brototeip, ond cred tîm yr Athro King bod eu robot nesaf, Eve, yn rhoi gobaith aruthrol i wyddonwyr sy’n chwilio am gyffuriau newydd yn erbyn afiechydon megis malaria a sgistosomiasis, haint sy’n cael ei achosi gan fath o fwydyn parasitig yn y trofannau.
“Petai gwyddoniaeth yn fwy effeithlon, byddai’n fwy tebygol o allu helpu i ddatrys problemau cymdeithas. Un ffordd o wneud gwyddoniaeth yn fwy effeithlon yw drwy awtomatiaeth. Awtomatiaeth oedd yr hyn a yrrodd lawer iawn o’r datblygiadau yn y 19eg a’r 20fed ganrif, ac mae hyn yn debygol o barhau,” ychwanegodd.
Ariannwyd y gwaith yn rhannol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.