Estyniad i adeilad Carwyn James
Adeilad Carwyn James
07 Medi 2009
Estyniad i adeilad Carwyn James
Mae'r gwaith wedi dechrau ar adeiladu estyniad gwerth £1.3m i Adeilad Carwyn James, cartref yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Bydd yn prosiect yn ychwanegu wyth labordy dysgu ac ymchwil at y deg sydd eisoes yn yr adeilad ac mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn haf 2010.
Mae'n cynllun hefyd yn cynnwys gosod trac rhedeg 400 metr dwy lôn o safon perfformio o amgylch y cae chwarae bob tywydd gyferbyn â’r Ganolfan Chwaraeon. Bydd yn cymryd lle’r llwybr tarmac un lôn sydd yno ar hyn o bryd.
Yn ogystal mae £750,000 yn cael ei fuddsoddi mewn Sganiwr DXA a sustem cipio delweddau symudol a fydd yn cael eu defnyddio gan yr Adran ar gyfer dysgu ac ymchwil.
Mae'r sganiwr DXA, sy'n defnyddio dognau isel o ddau belydr-x gyda gwahanol lefelau o ynni i sganio'r corff cyfan, yn mesur màs a dwysedd cyhyrau, braster ac esgyrn. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i feysydd iechyd a gwyddor chwaraeon. O dan arweinyddiaeth Dr Jo Wallace bydd yr ymchwilwyr yn astudio’r newidiadau mewn dwysedd esgyrn a chyfansoddiad y corff yn dilyn gweithgaredd corfforol, ymarfer corff a newid mewn diet er mwyn taclo gordewdra a chlefyd yr esgyrn brau (osteoporosis).
Bydd y sustem cipio delweddau symudol 'Motion Analysis' yn cael ei defnyddio ar gyfer ymchwil bio-mecanyddol mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Bydd un astudiaeth yn canolbwyntio ar raglenni ymarfer cydbwysedd a chryfder ar gyfer pobl hŷn er mwyn lleihau’r perygl o gwympo. Mae’r gwaith yma yn cael ei arwain gan Dr Samantha Winter a fydd yn cydweithio gyda Chlinig Cwympiadau Ward Dydd Leri yn Ysbyty Bronglais.
Dywedodd yr Athro David Lavallee, Pennaeth yr Adran:
“Mae’r datblygiadau yma yn adlewyrchu’r cynnydd a brofwyd gan yr Adran ers ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl. Nod yr adnoddau newydd yw ehangu ein ymchwil a chynnig mwy o profiad ymarferol i fyfyrwyr. Yn gynyddol mae adrannau Gwyddor Chwaraeon yn canolbwyntio ar agweddau damcaniaethol y pwnc a llai ar waith ymarferol. Yma rydym yn canolbwyntio ar ddysgu drwy weithio mewn labordai, elfen sydd yn gyfrifol am y lefel uchel iawn o fodlonrwydd myfyrwyr yr ydym yn ei fwynau.”
Mae dau aelod newydd o staff wedi ymuno â’r Adran ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Mae’r Biomecanydd, Dr Edward Chadwick, ym ymuno â PA o Brifysgol Salford. Mae Dr Chadwick, sydd wedi bod yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth ers 10 mlynedd, yn arbenigwr ar adfer breichiau isaf ac uchaf.
Mae’r Seicolegydd Emily Oliver yn cwblhau ei doethuriaeth mewn seicoleg chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar sut y mae sgiliau seicolegol yn gallu gwella perfformiad mewn chwaraeon.
Sefydlwyd yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn 2002. Yn y flwyddyn gyntaf roedd ganddi 15 o fyfyriwr israddedig. Bellach mae ganddi 220 o fyfyrwyr israddedig (amser llawn cyfatebol), 12 myfyriwr uwchraddedig a 11 aelod staff.