Aberystwyth yn arwain ar fodlonrwydd myfyrwyr
Bodlonrwydd myfyrwyr
16 Medi 2009
Unwaith eto mae Prifysgol Aberystwyth wedi perfformio'n wych yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf.
Mae Aberystwyth yn 6ed o holl brifysgolion y Deyrnas Gyfunol ac ar y brig yng Nghymru am y bumed flwyddyn yn olynol.
Mae'r canlyniad gwych hwn yn ategu canlyniad Arolwg Profiad Myfyrwyr yTimes Higher Education ar gyfer 2009 a oedd yn gosod Aberystwyth yn gyntaf yng Nghymru ac yn 8fed yn y Deyrnas Gyfunol.
Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr bob blwyddyn ers 2005. Mae’n arolwg o fyfyrwyr blwyddyn olaf yn y Deyrnas Gyfunol yn bennaf a’i brif bwrpas yw cynnig gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr am ble a beth i’w astudio.
Cafwyd 3,000 o gynnydd yng nghyfanswm y myfyrwyr a ymatebodd i’r arolwg eleni i 223,363, graddfa ymateb o 62% am y Deyrnas Gyfunol.
Gofynnir cwestiynau i’r myfyrwyr mewn saith maes: dysgu ar fy nghwrs; asesu ac adborth; cymorth academaidd; trefn a rheolaeth; adnoddau dysgu; datblygiad personol; a bodlonrwydd cyffredinol.
Mae bodlonrwydd cyffredinol â Phrifysgol Aberystwyth yn parhau yn uchel iawn ar 90%, yr un peth ag yn 2007 a 2008, a bron i 10% yn uwch na’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Gyfunol. Cafwyd y marciau uchaf mewn ‘adnoddau dysgu’ a ‘bodlonrwydd cyffredinol’.
Yn ogystal â bod ar y blaen yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr, mae llawer o’r pynciau a ddysgir yma i fyfyrwyr llawn-amser sydd ar eu cwrs gradd cyntaf wedi gweld bodlonrwydd eu myfyrwyr yn cynyddu ar draws y saith maes a asesir ym mhrofiad dysgu’r myfyrwyr.
O’u cymharu gyda’r cyfartaledd ar draws yr Deyrnas Gyfunol gwelwyd y tueddiadau canlynol:
Cynnydd ym mhob maes
• Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Amaethyddiaeth
• Sinemateg
• Celf
Cynnydd mewn 6 o’r 7 maes
• Daearyddiaeth Ffisegol
Cynnydd mewn 5 o’r 7 maes
• Cyfrifeg
• Busnes
• Cymraeg
• Cyfrifiadureg
• Addysg
• Daearyddiaeth Ddynol
• Gwleidyddiaeth Ryngwladol
• Sŵoleg
Dywedodd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae profiad o safon uchel i fyfyrwyr yn nodwedd hanfodol o addysg uwch ardderchog. Mae’r canlyniadau yn dangos fod y myfyrwyr yn cymryd yr arolwg o ddifrif, a’i weld yn ffordd o gynnal a gwellaf safon eu profiad.”
“Rydym wrth ein boddau fod y myfyrwyr unwaith eto eleni wedi cydnabod yr amgylchedd cefnogol a dyrchafol sydd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhagoriaeth ac ymrwymiad y staff dysgu a chynorthwyol, y cyrsiau cyffrous ac arloesol, yr amgylchedd cyfeillgar a’r ysbryd gymunedol sydd yn golygu fod astudio yn Aberystwyth yn brofiad mor unigryw i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.”
“Mae’n destun balchder mawr i ni i gyd yma ein bod wedi gwneud mor dda unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac mai ni yw’r gorau yng Nghymru am y bumed blwyddyn yn olynol. Hoffwn ddiolch i bawb yn Aberystwyth am greu’r profiad hwn. Ein nod yw parhau i wella pob agwedd ar y profiad i fyfyriwr yma. Mae ein myfyrwyr, a’r rhai fydd yn ymuno â nhw yma yn y dyfodol, bellach yn gwybod eu bod yn mwynhau yr awyrgylch myfyrwyr gorau sydd gan y Deyrnas Unedig i’w gynnig. Mae’r amgylchedd yn bwysig iawn, dyna paham mae hyn o bwys i ni”, ychwanegodd.
Cafodd yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr ei gynnal gan Ipsos MORI. Mae’r data ar gael i ddarpar fyfyrwyr, eu rhieni a’r rhai sydd yn eu cynghori, a byddant ar gael ar wefan Unistats (http://www.unistats.com/) ar ddiwedd Medi 2009.