Copenhagen a Newid yn yr Hinsawdd
Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies
30 Hydref 2009
Dydd Gwener 30 Hydref 2009
Copenhagen a Newid yn yr Hinsawdd: Yr hyn sydd yn y fantol a'r wleidyddiaeth
Cynhelir symposiwm undydd bwysig ar newid hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y 6ed o Dachwedd, fis cyfan cyn Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Copenhagen ar y 7ed a'r 8ed o Ragfyr.
Trefnwyd y symposiwm sydd yn arddel y penwad "Copenhagen and Climate Change: The Stakes; The Politics", gan Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies, rhan o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd yn archwilio pob ochr o’r drafodaeth a chyfeiriad y pwnc rhyngwladol cynyddol bwysig hwn i’r dyfodol.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys ysgolheigion sydd yn cael eu cydnabod ar draws y byd am eu gwaith ym meysydd polisi amgylcheddol a gwleidyddiaeth werdd, Yr Athro Robyn Eckersley a’r Athro Peter Christoff o Brifysgol Melbourne, y ddau yn gweithio ym Mhrifysgol Rhydychen ar hyn o bryd, ac Ian Clark, Athro E. H. Carr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ac aelod o Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies.
Yr Athro Ekersley yw awdur The Green State: Rethinking Democracy and Sovereignty. Yn ddiweddar cafodd ei hethol yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn Awstralia. Mae’r Dr Christoff wedi bod yn Gynorthwyydd i Gomisiynydd yr Amgylchedd yn Victoria ac mae’n gyn gyfarwyddwr Greenpeace Australia-Pacific.
Bydd y symposiwm yn cau gyda thrafodaeth bord gron gyda Syr John Houghton, cyn Brif Weithredwr Swyddfa’r Met a chyn gadeirydd Asesiad Gwyddonol i’r Pwyllgor Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd, Syr Emyr Jones-Parry, cyn Gynrychiolydd Parhaol Prydain i’r Cenhedloedd Unedig a Llywydd Prifysgol Aberystwyth, a Dr Marek Kohn o Brifysgol Brighton. Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan yr Athro Nicholas J Wheeler, Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies.
Dywedodd yr Athro Wheeler: “Dyma’r amser perffaith ar gyfer symposiwm ar newid hinsawdd. Mae sylw cyson yn y wasg ac Uwchgynhadledd y Cenhedloedd yn Copenhagen yn nodi fod cryn ddiddordeb yn y pwnc, a bod arweinwyr byd yn ymwybodol o bwysigrwydd gwirioneddol y mater. Mae newid hinsawdd hefyd yn ein hatgoffa o etifeddiaeth yr Arglwydd Davies, a’r pwyslais a roddodd ar gyfiawnder a chydweithio, ac ar ddod o hyd i atebion rhyngwladol i broblemau rhyngwladol.”
Cafwyd cefnogaeth ariannol hael tuag at drefnu’r symposiwm hon, yn rhannol gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori Prifysgol Aberystwyth a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Mae mynediad i’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ac mae ar agor i’r cyhoedd. Dylai pobl sydd yn dymuno mynychu gysylltu gyda Dr Grant Dawson ymlaen llaw ar gsd@aber.ac.uk.