Rhith-ganolfan sgiliau
Dr John Harries yn siarad yn lansiad Canolfan Sgiliau Aber-Bangor.
08 Hydref 2009
Diben Canolfan Sgiliau Aber-Bangor yw mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau ar lefel uwch yng Nghymru a chryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy brifysgol, cymunedau busnes y Canolbarth a’r Gogledd, a’r Cynghorau Sgiliau Sector. Mae’r fenter wedi cael cymorth gwerth £400,000 trwy law CCAUC dros gyfnod o 18 mis.
Dywedodd John Griffiths: “Mae Addysg Uwch yn rhan hanfodol o’n gweledigaeth yn Cymru’n Un o economi gadarn a mentrus â swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel.
“Mae sefydlu Canolfan Sgiliau Aber-Bangor yn cyfateb i’r dim ag ysbryd y nod hwnnw. Ei hamcan penodol yw mynd i’r afael â’r bylchau o ran sgiliau lefel uwch yn y Canolbarth a’r Gogledd trwy gynnig siop-un-stop ar gyfer cyflogwyr y sector preifat a chyhoeddus, ac ar gyfer unigolion sydd am gymorth i fynd i’r afael â’u hanghenion o ran sgiliau.
“Bydd y ‘fynedfa garedig’ hon yn agor yr hyn sy’n cael ei alw weithiau yn gyfrinach fwyaf addysg uwch. Hynny yw, nid darparu addysg i’r myfyriwr amser llawn 18 oed traddodiadol yw unig waith prifysgolion; mae iddynt ran bwysig chwarae rhan bwysig i’w chwarae yn y gwaith o ddarparu cyrsiau hyfforddi i gyflogwyr ac unigolion y mae angen gwella’u sgiliau.
“Blaenoriaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ein cyllideb gwerth £2 biliwn ar gyfer 2010/11 a gafodd ei chyhoeddi gennym yr wythnos hon, yw helpu pobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y dirywiad economaidd.
“Rydyn ni wedi trefnu bod arian ychwanegol gwerth £20.5 miliwn ar gael gan gynnwys £13 miliwn i estyn y cynllun Llwybrau at Brentisiaethau a’r rhaglen Adeiladu Sgiliau ar gyfer pobl sydd â sgiliau lefel mynediad. Rydyn ni wedi trefnu bod y £6.7 miliwn sy’n weddill ar gael ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc, gan gynnwys Cronfa Swyddi’r Dyfodol sydd wedi’i hanelu’n bennaf at rai 18-24 oed sydd wedi bod yn ddi-waith am bron blwyddyn.
“Bydd pob un o’r mesurau hyn a’r weledigaeth strategol sydd gennym ar gyfer addysg uwch a phellach yn sicrhau er gwaethaf yr hinsawdd economaidd heriol, y bydd gan y genhedlaeth nesaf yr addysg, y sgiliau a’r hyfforddiant i gyflawni’u llawn botensial yn y gweithle.”
Dywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae sefydlu Canolfan Sgiliau Aber-Bangor yn ddatblygiad amserol wrth fynd i’r afael â’r anghenion sgiliau mewn sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn y Canolbarth a’r Gogledd. Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch dros ben bod y Ganolfan Sgiliau yn seiliedig ar hanes hir o bartneriaeth rhyngom a Phrifysgol Bangor. Bydd y Ganolfan yn gyfle ardderchog i gysylltu cyflogwyr â’r ystod eang o arbenigedd sydd i’w chael yn adrannau’r ddwy brifysgol. Bydd yn helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o’r anghenion sgiliau a datblygu rhaglenni hyfforddi a fydd yn gwneud busnesau’r rhanbarth yn fwy cystadleuol ac yn fwy cynaliadwy.”