Aur am fwyd cynaliadwy
Kevan Downing
20 Tachwedd 2009
Ers pedair blynedd bellach mae Kevan Downing, Pennaeth Gwasanaethau Croeso PA, a Huw McConochie, Rheolwr Ffermydd PA, wedi bod yn cydweithio i gyflwyno bwydlen iach i fwytai’r Brifysgol sydd yn cynnwys cig a llysiau o ffermydd y Brifysgol ei hun.
Golyga eu gweledigaeth o gynnyrch lleol o safon fod hyd at 90% o fwyd y Brifysgol bellach yn dod o’i ffermydd ei hun a darparwyr lleol eraill megis Rachel’s Organic a Wyau Birchgrove. Mae hefyd wedi arwain at lleihau’n sylweddol yn nifer y milltiroedd bwyd gyda cig a gynhyrchwyd ar dir y Brifysgol yn teithio 36 milltir yn unig o’r gât i’r plât.
Yn fwy diweddar mae Kevan â’i dîm, sydd yn cynnwys myfyrwyr sydd yn gwirfoddoli, wedi bod yn tyfu ystod eang o ffrwythau a llysiau megis mefus, tomatos, perlysiau ffres, phupurrod a chilies mewn tai gwydr sydd yn eiddo i’r Brifysgol.
Ar ben arall y gadwyn fwyd mae’r peiriant compost ‘Rocket’ yn golygu fod unrhyw wastraff yn cael ei drin ar y safle gyda chyn lleied o sgil effeithiau ecolegol ag sydd yn bosibl.
Yn ogystal â’r Wobr Datblygiad Cynaliadwy dyfarnwyd dwy wobr arian i’r Brifysgol yn y dosbarth Cig Coch (cynhyrchwr bach) a’r dosbarth Defnyddio Cynnyrch Lleol. Yn noson wobrwyo 2008 enillodd y Brifysgol y wobr gyntaf am ei chig oen.
Mae Kevan Downing wrth ei fodd gyda’r tair gwobr.
“Cefnogaeth uwch reolwyr y Brifysgol, y bartneriaeth gyda’r ffermydd drwy Huw McConochie, ac ymdrechion pawb yn Gwasanaethau Croeso sydd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl.”
“Ynghyd â hyn, mae ein gallu i ddefnyddio cynnyrch lleol ffres, yn golygu fod ein bwytai yn cynnig rhai o’r prydiau lleol mwyaf iachus mewn ffordd gynaliadwy. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r nifer cynyddol o gwsmeriaid sydd yn cefnogi ein ymdrechion, yn aelodau staff a myfyrwyr, yn gwsmeriaid cynadleddau a’r bobl leol sydd yn parhau i ddefnyddio ein bwytai,” ychwanegodd.
Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, mae’r gwobrau – a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru – yn adlewyrchu’r gofynion cynyddol gan ddefnyddwyr am gynnyrch lleol ynghyd â rhai yn y farchnad allforio. Gwelodd gwobrau 2009/10 tua 860 o geisiadau gan dros 400 o gwmnïau, dros hanner cynhyrchwyr Cymru.
Sefydlwyd y gwobrau, sydd â beirniaid annibynnol, i gydnabod a gwobrwyo ansawdd ac arloesedd ar draws y sectorau bwyd a diod a lletygarwch.
Eleni roedd 18 categori gwobrau ar gyfer pob maes o’r sectorau cynhyrchu bwyd a diod, manwerthu a lletygarwch, yn ogystal â Chategori Llwyddiant Allforio newydd, a enillwyd gan gwmni Halen Môn.
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig: “Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas yn ddigwyddiad gwych i arddangos diwydiant bwyd a diod Cymru. Unwaith eto mae’r Gwobrau wedi dangos yn union faint o fwyd ansawdd uchel sydd ar gael yma, a hoffwn longyfarch pawb a enillodd wobr.
“Yn gynharach eleni lansiais ein Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol sy’n annog pob un ohonom i brynu mwy o fwyd o Gymru. Mae cynifer o fanteision mewn prynu’n lleol: o ostwng taith bwyd a chefnogi’r economi lleol, i’r sicrwydd sy’n dod o wybod o ble daw ein bwyd a sut y cafodd ei gynhyrchu.”