Grym i wneud gwahaniaeth
Ruth Marks MBE
18 Tachwedd 2009
Darlith flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig eleni fydd ““Empowered To Make A Difference - The Older People's Commissioner for Wales” a draddodir gan Ms Ruth Marks, y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru.
Cynhelir y ddarlith am 7 yr hwyr Nos Iau, Tachwedd 19eg ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe'ch croesawir i gyd yn gynnes i fynychu’r ddarlith.
Y mae’r cysyniad o Gomisiynydd ar gyfer Pobl Hŷn yn rhywbeth lle mae Cymru’n arloesi, gan mai Cymru yw’r gyfundrefn gyntaf yn y byd i greu swyddogaeth o’r fath.
Amcan swyddogaeth y Comisiynydd yw sicrhau llais cryfach er mwyn adnabod anghenion pobl hŷn ac i weithredu fel llysgennad ynghyd â ffynhonnell o wybodaeth, eiriolaeth a chymorth ar gyfer pobl hŷn, yn union fel y gwna’r Comisiynydd Plant ar gyfer haen ieuengaf y boblogaeth.
Gan hynny, mae’n bleser gan y Ganolfan Materion Cyfreithio Cymreig groesawu Ruth Marks i Brifysgol Aberystwyth i egluro pwysigrwydd ei swyddogaeth arloesol.
Mae Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn rhan o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth. Cafodd ei sefydlu ym mis Ionawr 1999, gyda'r bwriad o atgyfnerthu a rhoi ffocws i waith ac arbenigedd yr Adran ym maes y Gyfraith a'i pherthnasedd i Gymru, a datblygiadau cyfreithiol cyffredinol sy'n gysylltiedig â Chymru.
Y symbyliad i greu'r Ganolfan oedd Datganoli, sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru, a gweld trefn gyfreithiol ag iddi ymdeimlad Cymreig pendant yn dod i'r amlwg.
Ar hyn o bryd mae’r broses o roi datganoli ar waith yn rhan bwysig o weithgaredd y Ganolfan, o safbwynt y gyfraith gyhoeddus sy’n ymwneud â strwythurau a gweithrediadau’r Cynulliad ei hun, ac o safbwynt cyfreithiau a ddatblygir gan y Cynulliad.
Y mae darlith Ruth Marks, i ddathlu dengmlwyddiant y Ganolfan a Datganoli, felly yn enghraifft o sut y mae Cymru wedi llwyddo i arloesi ac i arwain yr agenda ym maes hawliau a buddiannau pobl hŷn.
Ceir gwybodaeth bellach am waith Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cwla/index.htm.