Plant, teledu a'r we
Chwith i'r Dde: Angharad Garlick a Dafydd Felix Roberts o Boomerang+, Idris Price o Knowledge Transfer Partnerships a Dr Merris Griffiths o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
26 Tachwedd 2009
Mae byd plant heddiw yn wahanol iawn i'r un y magwyd eu rhieni ynddo, a does dim dianc rhag y ffaith fod technoleg yn ffordd o fyw iddyn nhw - yn y dosbarth, a gartref wrth gymdeithasu a hamddena.
Y defnydd hwn o dechnoleg, a'r ffordd y mae plant rhwng saith ac unarddeg oed yn ei defnyddio sydd wrth wraidd prosiect newydd ar y cyd rhwng Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ac un o'r cwmnïau mwyaf ym maes rhaglenni teledu i blant, Boomerang+ o Gaerdydd.
Dyw hi ddim yn ddigon bellach i gwmni teledu greu rhaglen i ddifyrru'r gynulleidfa. Mae angen o leiaf gwefan ar bob rhaglen, yn ogystal â gweithgareddau ar-lein, clybiau ac ystafelloedd sgwrsio yn y byd aml-blatfform sydd ohoni.
Amcan y prosiect a gaiff ei ariannu am ddwy flynedd gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg yw deall y ffordd mae plant ifanc yn defnyddio technoleg, ac yn benodol eu profiad nhw o'r berthynas rhwng teledu a'r we. Bydd hyn yn bwydo strategaeth tymor hir Boomerang+, wrth i'r cwmni baratoi ar gyfer lansio gwasanaeth newydd S4C a fydd yn apelio at blant yn yr ystod oedran 7 oed i ddechrau’r arddegau yn ystod gwanwyn 2010.
Bydd yr Adran a Boomerang+ yn penodi cydymaith ôl-raddedig i weithio gyda’r tîm cynhyrchu a’r plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth er mwyn creu modelau newydd o gynhyrchu a fydd yn eu tro yn rhoi budd economaidd i’r cwmni.
Bydd y gwaith i gyd yn seiliedig ar ymchwil academaidd Dr Merris Griffiths, arbenigwraig ym maes cyfryngau plant, gan gynnwys hysbysebu, arferion cynhyrchu a llythrennedd y cyfryngau. Bydd Dr Griffiths yn goruchwylio’r prosiect, gan greu data newydd ar arferion a dewisiadau cyfryngol plant yng Nghymru.
Dywedodd: ‘Bydd astudiaeth o farn plant ar draws Cymru i ffurf a chynnwys rhaglenni teledu a gwefannau sydd wedi eu creu ar eu cyfer yn hynod ddiddorol. Bydd dysgu mwy am fywydau aml-blatfform a gweithgareddau cyfryngau cydgyfeiriol y plant yn gymorth i Boomerang+, ac yn eu galluogi i ddeall yn well ac asesu ymateb eu cynulleidfa darged i’w gwaith creadigol.’
Dywedodd Angharad Garlick o gwmni Boomerang+, "Bydd cael ymchwilydd o’r Brifysgol yn rhan o’n tîm cynhyrchu dros Gymru ben baladr yn gymorth mawr i ni ddeall sut mae plant yn defnyddio’r cyfryngau ar hyn o bryd; hefyd, sut mae’r arferion hynny’n newid yn gyflym wrth i ni geisio cyfarfod anghenion ein cynulleidfaoedd i’r dyfodol. Mae’r newid mewn arferion yn cyflymu fwy nag erioed.”
Dywedodd yr Athro Adrian Kear, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:
"Gyda chymorth Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori'r Brifysgol, rydyn ni wedi llwyddo i gydweddu arbenigedd o fewn yr adran ag anghenion y cwmni. Gyda'r pwyslais cynyddol heddiw ar drosglwyddo gwybodaeth rhwng y byd academaidd a diwydiant, rydyn ni'n hyderus y gallwn ni barhau i gydweithio gyda Boomerang+ ar nifer o brosiectau mewn ffordd fydd yn elwa'r ddwy ochr."
Dywedodd Huw Eurig Davies, Prif Weithredwr Grŵp Boomerang: “Mae’r bartneriaeth sy’n dod a throsglwyddiad gwybodaeth a disgyblaethau rhwng y Brifysgol a’n tîm cynhyrchu yn sicr o gynhyrchu gwybodaeth allweddol am y ffordd mae plant a phobl ifanc yn newid y ffordd mae’r cyfryngau’n cael eu defnyddio yn y byd digidol. Mae’n fenter amserol a chyffrous.”
Sefydlwyd y bartneriaeth ffurfiol rhwng yr Adran â Chwmni Boomerang+ ym mis Hydref 2008 ac ers hynny mae cryn gydweithio wedi bod o ran datblygu talent a darparu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr. Hwn yw'r gweithgaredd ymchwil cyntaf rhwng y partneriaid.