Chwilio am fiodanwydd gwyrddach
Dr Joe Gallagher
25 Tachwedd 2009
Mae prosiect Grassohol a fydd yn para am dair blynedd yn canolbwyntio ar fathau o rygwellt lluosflwydd (perennial ryegrass) sy'n uchel eu siwgr ac a ddatblygwyd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylchedd a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel deunydd crai ar gyfer cynhyrchu bioethanol.
Mae tîm y prosiect yn astudio pob dolen yn y gadwyn gynhyrchu yn fanwl – o'r ffermwr i ddosbarthwr y biodanwydd – er mwyn datblygu proses cynhyrchu biodanwydd a fydd yn gallu llwyddo’n fasnachol gan amharu cyn lleied ag y bo modd ar yr amgylchedd.
Mae’r prosiect yn dod ag arbenigedd wyth partner at ei gilydd, bob un yn arweinydd yn ei faes ei hun: Aber Instruments Ltd, Alvan Blanch, Germinal Holdings Ltd, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, ONE 51 Plc, TMO Renewables ac Wynnstay Group Plc.
Mae’n cael cymorth gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a’r Cyngor Ymchwil ar y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg drwy raglen LINK ‘Deunydd Adnewyddadwy’, a rhaglen Arbenigedd Academaidd i Fusnes a gynhelir gan Lywodraeth y Cynulliad gyda chymorth Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
“Dim ond drwy’r arbenigedd amhrisiadwy sydd gan bob partner i’w gyfrannu y gellir cynnal y prosiect Grassohol,” meddai’r Dr Joe Gallagher sydd yn wyddonydd ymchwil a Chyfarwyddwr y Prosiect yn IBERS. “Mae’n cynnig posibiliadau sylweddol o ran cynhyrchu biodanwydd ac mae cyfraniadau pob partner yn dangos pwysigrwydd masnachol yr ymchwil wrth inni symud yn anochel tuag at economi a seilir ar fiotechnoleg.”
“Mae amaethwyr gwledydd Prydain yn arbenigwyr ar dyfu porfa, bydd defnyddio’r cnydau hyn mewn bioburfeydd yn gwneud cyfraniad pwysig i economi gwledydd Prydain, gan gadw golwg traddodiadol cefn gwlad ar yr un pryd,” ychwanegodd.
Mae’r tîm yn defnyddio mathau o rygwellt lluosflwydd sydd yn uchel eu siwgr ac yn arbrofi â gwahanol briddoedd, gwrteithiau a chnydau cymar megis meillion gwynion, gyda’r nod o ddibynnu’n llai ar wrteithiau gwneud a seilir ar olew.
Mae’r Dr Kirstin Eley, Rheolwr y Prosiect yn TMO Renewables, yn ategu brwdfrydedd y Dr Gallagher dros ymchwil, gan ddweud “Dyma gyfle go iawn i ddangos posibiliadau’r broses hon i fod yn llwyddiannus yn fasnachol gan ddefnyddio deunydd crai o gnydau nas defnyddir fel bwyd ac sydd eisoes yn doreithiog yng ngwledydd Prydain. Mae’n gyffrous iawn bod rhan o’r gwaith cydweithredol hwn, yn gweithio ar y cyd â grwpiau blaengar eraill.”
Mae’r canlyniadau cynnar yn addawol ac yn awgrymu y gellid cynhyrchu hyd at 4,500 litr o ethanol fesul hectar o rygwellt bob blwyddyn, sy’n cymharu’n dda â chnydau ynni eraill ond gyda manteision ychwanegol, sef eu bod yn gyfeillgar i’r amgylchedd, yn gallu tyfu ar dir salach ac yn golygu llai o gostau rheoli.
LINK Deunydd Adnewyddadwy
Mae LINK yn gyfrwng i Lywodraeth Prydain annog ymchwil gydweithredol arloesol sy’n berthnasol i fyd diwydiant er mwyn helpu i wireddu ei hamcanion i greu cyfoeth a gwella ansawdd bywyd. Mae rhaglen LINK Deunydd Adnewyddadwy yn annog buddsoddi mewn ymchwil a chyfnewid gwybodaeth rhwng y sector preifat a byd ymchwil wrth hybu gwaith ar ddefnyddio deunydd adnewyddadwy at ddibenion amgenach na bwyd i gynorthwyo datblygu cynaliadwy.
Partneriaid y Prosiect a’u cyfraniad i’r prosiect.
Aber Instruments Limited yn datblygu offer gwyddonol hynod fanwl i fonitro meicro-organebau a sut mae ffeibr yn cael ei dreulio yn ystod y broses eplesu er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon a lleihau’r costau cysylltiedig.
Alvan Blanch, cwmni peirianneg a gweithgynhyrchu a chanddo arbenigedd helaeth mewn offer amaethyddol i brosesu cnydau ar ffermydd. Bydd y cwmni yn cloriannu posibiliadau economaidd prosesu sudd gwair ar y fferm i greu bioethanol wedi’i rannol brosesu.
Germinal Holdings Limited yn tyfu a marchnata mathau newydd o wair i’r sectorau amaethyddol a hamdden. Nhw sy’n darparu hadau’r mathau dethol o wair a meillion yn ogystal ag arbenigedd gwerthfawr ar eu hagronomeg.
IBERS. Canolfan sydd ag enw da ledled y byd am fridio gwair a meillion, gydag arbenigedd rhyngwladol ar agronomeg, prosesu a chemeg porthiant. Nhw fydd yn tyfu a phrosesu’r gweiriau a’r meillion a ddefnyddir yn y prosiect hwn. Nhw hefyd fydd yn medi, prosesu ac eplesu’r porthiant, a datblygu dulliau o sefydlogi ffracsiynau o ffeibr. Bydd IBERS yn cynnal Dadansoddiadau Cylch Bywyd gyda chyfraniadau gan bob un o aelodau’r consortiwm.
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn rhoi cyngor ar bosibiliadau economaidd a logistaidd cynhyrchu bioethanol o weiriau uchel eu siwgr. Drwy ei rwydwaith o ymgynghorwyr proffesiynol mae’r Undeb yn darparu atborth pwysig oddi wrth y sawl sy’n tyfu’r gwair.
ONE 51 Plc yn rhoi cyngor economaidd a logistaidd gyda phwyslais ar gludo gwair ar ffurf hylif mewn tanceri.
TMO Renewables yw’r prif bartner diwydiannol gyda phrofiad helaeth o ddatblygu biodanwydd ail genhedlaeth sydd wedi ei gynhyrchu gan ddefnyddio biomas neu wastraff bio, yn hytrach na’r cnydau gwreiddiol. Mae proses eplesu tymhered uchel unigryw TMO yn dangos effeithlonrwydd uchel a chyfraddau trosglwyddo uchel. Yn ogystal â darparu adnoddau cynhyrchu a labordai, bydd y cwmni yn cynnal treialon eplesu rhagarweiniol a threialon ar raddfa fawr.
Wynnstay Group Plc. yn canolbwyntio ar wasanaeth i’r ffermwr, mae gan Wynnstay Group PLC arbenigedd logistaidd ar ddosbarthu cynnyrch amaethyddol. Byddant yn darparu dealltwriaeth werthfawr o agronomeg tir glas, offer ar y fferm ac atborth gan y gymuned amaethyddol.
Sbardunau’r Prosiect:
Rhwymedigaeth Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddadwy. Mae Prydain wedi ymrwymo i ddisodli 5% o’r petrol a ddefnyddir ar hyn o bryd â biodanwyddau erbyn Rhagfyr 2013.
Sicrwydd Cyflenwad: Ychydig o fiodanwydd sydd yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain ar hyn y bryd, ac mae’r bioethanol a ddefnyddir ar hyn o bryd yn dod o wledydd megis Brasil.
Newid yn yr hinsawdd: cyfle i leihau allyriadau carbon deuocsid Prydain.
Economi cefn gwlad: yn cynnig posibiliadau eraill i ffermwyr tir glas yn lle magu da byw
Bwyd ynteu Tanwydd? Yng ngwledydd Prydain, mae angen tir âr i dyfu cnydau cenhedlaeth gyntaf (e.e. gwenith, betys melys a hadau olew rêp). Mae tir âr yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd yn bennaf, ac mae angen mewnbwn ynni uchel. Mae tir glas yn cyfrif am hyd at 70% o dir amaeth gwledydd Prydain, sef mwy o lawer na’r arwynebedd a ddefnyddir i dyfu cnydau bwyd. Drwy gynhyrchu biodanwydd ar dir glas fe ellir lleddfu rhywfaint ar y dadleuon ynghylch defnyddio tir i dyfu tanwydd a thyfu bwydydd.
Erbyn 2020, bydd angen i 10% o’r holl danwydd a ddefnyddir yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd ddeillio o ffynhonnell adnewyddadwy.
Yn yr UE, disgwylir y bydd y maint o fioethanol a gynhyrchir yn codi i 25,000 miliwn litr erbyn 2020. Byddai 10% o’r farchnad honno yn fusnes masnachol sylweddol i ddiwydiant biodanwyddau gwledydd Prydain.
Ar hyn o bryd mae 1.2miliwn hectar o dir gwledydd Prydain yn dir glas a ailheuwyd gyda 5.2miliwn hectar pellach yn cael eu disgrifio fel glaswelltir wedi’i wella, hynny yw heb ei ail hau yn y pum mlynedd diwethaf, ond heb gynnwys tir pori garw. Mae defnyddio tir glas a ailheuwyd yn gyfle sylweddol i ffermwyr tir glas Prydain.
Pam rhygwellt lluosflwydd?
Mae cynhyrchu biodanwydd o gnydau lignoselwlosig yr ‘ail genhedlaeth’ megis gweiriau yn ddewis amgenach posib i’r deunydd crai a ddefnyddir ar hyn o bryd.
Mae gweiriau wedi’u tyfu yn draddodiadol ledled gwledydd Prydain
Mae maint cynnyrch y biomas yn debyg i gnydau lignoselwlosig eraill a ddefnyddir i gynhyrchu biodanwydd
Dim ond ychydig o fewnbwn blynyddol
Cyfrannu at dirwedd cefn gwlad, yn cadw tirweddau sy’n bwysig i’r diwydiant twristiaeth.
Mae gan ffermwyr gwledydd Prydain yr arbenigedd angenrheidiol i dyfu’r cnwd.
Mae’r cnwd yno yn y tir ar hyn o bryd.
Addas iawn i’w eplesu, yn cynnwys llawer o siwgr toddadwy, mae’r ffeibr yn treulio yn dda, ac mae’n isel ei lignin o’i gymharu â chnydau lignoselwlosig posib eraill.