Ymweliad o Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau
Dde i'r Chwith: Mr James McDonald, Swyddog Materion Cymreig Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau gyda'r Athro Mike Wilkinson, yr Athro Chris Thomas a Mr Penri James o IBERS
09 Mawrth 2009
Bu Mr James McDonald, Swyddog Materion Cymreig yn Llysgenhadaeth Unol Daleithiau America yn Llundain, yn cyfarfod gydag uwch swyddogion o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn ystod ymweliad byr ag Aberystwyth ddydd Llun y 9ed o Fawrth.
Cafodd Mr McDonald gyflwyniad am y datblygiadau diweddaraf o fewn IBERS gan Gyfarwyddwr Menter a Datblygu Rhyngwladol y sefydliad, yr Athro Mike Wilkinson. Cyfarfu hefyd gyda'r Athro Chris Thomas, Arweinydd Polisi Sustemau Tirwedd, sydd newydd ddychwelyd o gynhadledd flynyddol yr American Association for the Advancement of Science yn Chicago lle bu'n cyflwyno ei waith ymchwil diweddaraf ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar Malaria yn Affrica.
Yn ystod yr ymweliad a drefnwyd gan Mr Penri James, darlithydd mewn Amaethyddiaeth yn IBERS, bu Mr McDonald hefyd yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ar ddiwedd ei ymweliad dywedodd: “Dyma’r tro cyntaf i mi ymweld â’r rhan hon o Gymru. Mae’r hyn rwyf wedi ei glywed am IBERS o ddiddordeb mawr a byddaf yn trosglwyddo’r wybodaeth i’m cydweithwyr yn y Llysgenhadaeth er mwyn gweld a oes cyfleoedd ar gyfer cydweithio.”
Yn ôl Mr McDonald mae gan y Swyddog Materion Cymreig ddwy rôl, sicrhau fod Washington yn gwybod beth sydd yn digwydd yng Nghymru, a gweithredu fel cyd-gysylltydd rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau. Wedi blwyddyn yn y swydd bydd yn trosglwyddo’r awenau i un o’i gydweithwyr ym mis Ebrill.