Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru
Miss Laura-Pauline Adcock (Cwnsler Arweiniol) a Mr Eric Lee (Cwnsler Ieuaf) a fydd yn cynrychioli Aberystwyth yng Nghystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru.
20 Mawrth 2009
Bydd myfyrwyr o bedair o brifysgol Cymru sydd â'u bryd ar fod yn fargyfreithwyr yn cystadlu am bencampwriaeth Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru 2009 ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 25 Mawrth.
Bydd timoedd o Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Morgannwg, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ac Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn profi eu gallu i ddadlau yn y gystadleuaeth un diwrnod sydd yn cael ei noddi gan y cyhoeddwr a’r darparwr gwybodaeth cyfreithiol LexisNexis.
Caiff yr enillwyr eu dewis gan Mr Carwyn Jones, Cwnsler Cyffredinol a Arweinydd y Tŷ, a Gweinidog Busnes a Chyfathrebu y Cynulliad Cenedlaethol.
Beirniaid y rowndiau rhagbrofol fydd Mr Robert Hanratty o Hanratty & Co Solicitors, Y Drenewydd, Powys, a Mr Andrew Perkins, Bargyfreithiwr a Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ymrysonau cyfreithiol, lle mae dau bâr yn dadlau ffug achos, wedi bod yn rhan o addysg gyfreithiol er canrifoedd. Yn y 15ed Ganrif roedd Neuaddau’r Frawdlys (Inns of Court) yn defnyddio ymrysonau cyfreithiol i hyfforddi bargyfreithwyr ifainc am fanylder y grefft. Nid yw ennill yr achos o reidrwydd yn sicrhau buddugoliaeth, ond yn hytrach safon y cyflwyniad a’r dadleuon cyfreithiol.
Mae Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru yn rhan o Wythnos Ddadlau Cyfreithiol a sefydlwyd gan Gymdeithas Ymryson Cyfreithiol Aberystwyth. Cadeirydd y Gymdeithas yw Christopher McFarland, myfyriwr y Gyfraith sydd ar ei flwyddyn olaf; “Dyma’r tro cyntaf i gystadleuaeth ymryson cyfreithiol ryng-golegol gael ei chynnal yng Nghymru.
“Mae’n ddigwyddiad unigryw ac yn gyfle gwych i feithrin cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymru â byd y gyfraith yng Nghymru. Yn ogystal mae gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr gystadlu a thrwy hynny yn reswm arall pam y dylai darpar fyfyrwyr astudio a gweithio ym myd y gyfraith yng Nghymru.”
Cynrychiolwyr Aberystwyth yn y gystadleuaeth fydd Miss Laura-Pauline Adcock (Cwnsler Arweiniol) a Mr Eric Lee(Cwnsler Ieuaf), sydd ar y blaen yng nghystadleuaeth ymrysona cyfreithiol fewnol Prifysgol Aberystwyth a drefnir gan y Gymdeithas. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth ac yn dechrau am 4 y prynhawn.
Ddydd Gwener 27 Mawrth bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal y rownd ddiweddaraf Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Gwasg Prifysgol Rhydychen & BPP 2009 pan fydd Aberystwyth yn herio Prifysgol Nottingham. Bydd y Cwnsler Arweiniol Mr Rhonson Salim a’r Cwnsler Ieuaf Mr Scott Preece yn dadlau er mwyn sicrhau lle yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth. Eisoes cawsant fuddugoliaethau yn erbyn Prifysgol Dinas Birmingham a Phrifysgol Westminster.
Bydd gweithgareddau’r wythnos yn dechrau gyda achos ffug, R v King, a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ddydd Llun 23 Mawrth. Bydd y gwrandawiad, sydd ar agor i’r cyhoedd, yn dechrau am 9 y bore.
Diwedd.
Rhaglen Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol
3.00pm Seremoni agoriadol
4.00pm Rowndiau rhagbrofol
Prifysgol Caerdydd v Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth v Prifysgol Morgannwg – Yr Hen Neuadd
5.15pm Cystadleuwyr y Rownd derfynol yn cyfnewid bras ddadleuon a sypynnau.
6.30pm Y Rownd Derfynol, Siambr Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Yr Hen Goleg
8.30pm Cinio’r Hwyr a’r Seremoni Gloi.