Prifysgolion mwyaf Cymru i gydweithio
Twr Llandinam
01 Mawrth 2009
Mae pum prifysgol fawr Cymru yn cyhoeddi eu bwriad i gydweithio.
Heddiw mae pum prifysgol fwyaf Cymru yn cyhoeddi eu bwriad i weithredu ar y cyd, gan gyfuno eu cryfderau a'u doniau i hybu'r economi gwybodaeth yng Nghymru.
Gyda’i gilydd, mae Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe yn cynrychioli dros 70% o’r holl fyfyrwyr yng Nghymru a mwy na 95% o weithgarwch ymchwil y genedl. Mae trosiant y pum prifysgol fawr rhyngddynt yn agos i £1 biliwn, gyda chyfraniad sylweddol o ffynonellau rhyngwladol, felly maent yn creu arian sylweddol i Gymru.
Mae pum prifysgol fawr ymchwil ac arloesi Cymru wedi dod at ei gilydd ac wedi datgan:
“Mae angen i ddatblygiad Cymru gael ei yrru gan arloesed gwirioneddol. Bydd arloesed o’r fath yn deillio o ddyfnder a lled y wybodaeth a gynrychiolir gan ein prifysgolion. Rydym eisoes yn cydweithio mewn meysydd sy’n cynnwys datblygu cynaliadwy, gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol, polisïau adfer cymdeithasol. Fe wyddom y gall ein staff a’n myfyrwyr, gyda’i gilydd, gynnig cymorth go iawn i fyd busnes, y sector cyhoeddus ac i unigolion. Ein blaenoriaeth gyntaf fydd helpu Cymru i weithio ei ffordd allan o’r dirwasgiad presennol a’r tu hwnt i hynny, i greu cymdeithas lewyrchus a arweinir gan wybodaeth ac economi fydd yn gosod Cymru ar flaen y gad.
“Rydym wedi ymrwymo i'r pum nod canlynol:
1 Creadigrwydd: Fe ddeuwn o hyd i atebion i anghenion busnesau ac unigolion sy’n gweithio ac sy’n gallu creu effaith yn gyflym.
2 Ymgynghori: Byddwn yn gweithio gyda byd busnes, y sector gwirfoddol a'r llywodraeth i ganfod gwir flaenoriaethau Cymru.
3 Buddsoddiad Cyfalaf: Byddwn yn parhau gyda’n rhaglenni buddsoddi cyfalaf uchelgeisiol, gan greu swyddi adeiladu a chefnogi busnesau yng Nghymru trwy ganfod cyflenwyr yn lleol lle bo'n bosib.
4 Cydweithredu: Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid busnes rhyngwladol ac addysg i lunio ein gweledigaeth ar gyfer Cymru. Mae gennym nifer helaeth o bobl gyswllt o Efrog Newydd i New South Wales, sy'n cynnig arbenigedd ym mhopeth o Bensaernïaeth i Sŵoleg, a bydd yr arbenigedd hwnnw ar gael i bawb yng Nghymru er lles Cymru.
5 Consensws: Byddwn yn rhan o ateb Un Gymru, gan weithio gyda'r llywodraeth a phartneriaid eraill i lywio a datblygu polisi economaidd a chymdeithasol.
“Credwn yn gryf trwy adeiladu ar gyfalaf deallusol a rhagoriaeth academaidd ein prifysgolion, y gallwn helpu Cymru i greu economi arloesol a bywiog a chymdeithas gyfiawn ar gyfer yr 21ain ganrif.”
Meddai Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru, Jane Hutt: “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ac i gydweithredu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n rhoi croeso mawr felly i gyhoeddiad y Prifysgolion Cymreig hyn gan iddi weld hyn fel arwydd clir o’u penderfyniad i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod Cymru yn datblygu ei henw da fel gwlad ymysg y goreuon yn y byd o ran ymchwil, arloesi a datblygu.”
Mae’r pum Is-Ganghellor a’u staff bellach yn gweithio gyda’i gilydd i ganfod meysydd lle gall eu cryfderau cyfunol gael effaith. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ymchwil. Mae’r prifysgolion yn cyfrif am 96% o’r arian ymchwil o ansawdd o Gyngor Addysg Uwch Cymru. Mae partneriaethau presennol rhwng y pump yn cynnwys y corff newydd, Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, sy’n mynd i’r afael â dad-ddiwydiannu mewn cymunedau yng Nghymru. Bydd partneriaethau yn y dyfodol yn adeiladu ar brif gryfderau’r pump, a ddatgelwyd yn Ymarfer Asesu Ymchwil annibynnol 2008, lle barnwyd bod mwy na hanner y 2,325 o academyddion yn y pum prifysgol yn gwneud ymchwil oedd ar y blaen yn fyd-eang neu o arwyddocâd rhyngwladol.
Gwasanaethau Busnes Mae'r pum prifysgol yn cyfrif am 70% o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Cymru, sy’n cynnig gwybodaeth a sgiliau academaidd i fusnesau lleol i'w gwneud yn fwy cystadleuol. Bwriad y prifysgolion yw cyflymu twf nifer o bartneriaethau, a datblygu ymhellach wasanaethau hyfforddiant busnes, datblygiad proffesiynol ac ymgynghori.
Myfyrwyr. Mae'r prifysgolion yn ddarparwr sgiliau pwysig, gyda mwy na 50,000 o israddedigion cyfwerth ag amser llawn a thua 13,000 o fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae'r pump eisoes yn cydweithredu ar ehangu rhaglenni mynediad, i annog ceisiadau israddedig gan deuluoedd lle nad oes neb wedi bod yn y brifysgol o'r blaen. Adeiledir ar hyn, ynghyd â rhaglenni ysgoloriaethau a bwrsariaethau, i greu gweithlu fydd yn gwneud y gorau o ddawn a photensial pobl Cymru.
Rhyngwladol. Gyda chyfanswm o ryw 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol, mae’r pum prifysgol yn cynnig “ffenest siop” bwysig ar Gymru i’r byd. Bydd amlygrwydd tramor y prifysgolion yn hollbwysig wrth argyhoeddi cwmnïau ledled y byd bod Cymru yn wlad y gallant wneud busnes â hi.