Pencampwyr ymryson cyfriethia
Cynrychiolwyr Aberystwyth, Laura-Pauline Adcock ac Eric Lee, yn ystod rownd derfynol Cystadleuaeth Ymryson Cyfreithia Genedlaethol Cymru.
27 Mawrth 2009
Aberystwyth yn bencampwyr Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru
Barnwyd Miss Laura-Pauline Adcock (Cwnsler Arweiniol) a Mr Eric Lee(Cwnsler Ieuaf), myfyrwyr Y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn bencampwyr cyntaf Cystadleuaeth Ymryson Cyfreithia Genedlaethol Cymru gafodd ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Mercher 25 Mawrth.
Sicrhaodd Laura ac Eric eu lle yn y rownd derfynol yn dilyn buddugoliaeth dros Ysgol y Gyfraith Morgannwg yn y rownd gynderfynol, cyn mynd ymlaen i drechu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe. Y barnwr yn y rownd derfynol oedd Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ, a Gweinidog Busnes a Chyfathrebu y Cynulliad Cenedlaethol, Carwyn Jones AC.
Daeth timoedd o Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Morgannwg, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ac Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth at ei gilydd i brofi eu gallu i ddadlau yn y gystadleuaeth un diwrnod a noddwyd gan y cyhoeddwr a'r darparwr gwybodaeth cyfreithiol LexisNexis.
Bu ymrysonau cyfreithiol, lle mae dau bâr yn dadlau ffug achos, yn rhan o addysg gyfreithiol ers canrifoedd. Yn y 15ed Ganrif roedd Neuaddau'r Frawdlys (Inns of Court) yn defnyddio ymrysonau cyfreithiol i hyfforddi bargyfreithwyr ifainc am fanylder y grefft. Nid yw ennill yr achos o reidrwydd yn sicrhau buddugoliaeth, ond yn hytrach safon y cyflwyniad a’r dadleuon cyfreithiol.
Roedd Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru yn rhan o Wythnos Ddadlau Cyfreithiol a drefnwyd gan Gymdeithas Ymryson Cyfreithiol Aberystwyth. Cadeirydd y Gymdeithas yw Christopher McFarland, myfyriwr y Gyfraith sydd ar ei flwyddyn olaf; “Dyma’r tro cyntaf i gystadleuaeth ymryson cyfreithiol ryng-golegol gael ei chynnal yng Nghymru.
“Mae’n ddigwyddiad unigryw ac yn gyfle gwych i feithrin cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymru â byd y gyfraith yng Nghymru. Yn ogystal mae’n gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr gystadlu a thrwy hynny yn reswm arall pam y dylai darpar fyfyrwyr astudio a gweithio ym myd y gyfraith yng Nghymru.”
Ar ran y noddwyr LexisNexis dywedodd Caralyn Duignan;
“Trefnwyd y diwrnod yn hynod effeithiol ar roedd y cyfan yn brofiad dymunol iawn. Roedd y barnwyr o’r safon uchaf and rwy’n credu fod pawb ohonom wedi dysgu rhywbeth oddi wrthynt. Roedd Carwyn Jones yn farnwr gwych yn y rownd derfynol ac rwy’n mawr obeithio y gallwn sicrhau ei fod gyda ni unwaith eto’r flwyddyn nesaf.”
Barnwyr y rowndiau rhagbrofol oedd Mr Robert Hanratty o Hanratty & Co Solicitors, Y Drenewydd, Powys, a Mr Andrew Perkins, Bargyfreithiwr a Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd Mr Perkins; “ Roedd yn bleser bod o gymorth ar ddiwrnod mor wych ac roedd yn braf gweld dadlau cyfreithiol o’r fath safon yng Nghymru – boed hynny i barhau.”
Ddydd Gwener 27 Mawrth bu Mr Rhonson Salim (Cwnsler Arweiniol) a’r Mr Scott Preece (Cwnsler Ieuaf) yn cynrychioli Aberystwyth yn rownd ddiweddaraf Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Gwasg Prifysgol Rhydychen & BPP 2009, wedi buddugoliaethau gwych yn erbyn Prifysgol Dinas Birmingham a Phrifysgol Westminster yn y rowndiau blaenorol. Yn anffodus yr ymwelwyr o Brifysgol Nottingham a sicrhaodd ei lle yn y rownd gynderfynol y tro hwn.