Rhestr fer gwobr lenyddol
Dr Sarah Prescott
02 Mawrth 2009
Academydd o Aberystwyth ar restr fer gwobr lenyddol fawr
Cyhoeddwyd fod Dr Sarah Prescott, uwch-ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar rhestr fer am un o brif wobrau llenyddol Cymru, rhestr sydd yn cynnwys menywod yn unig.
Bydd y bedair ym ymgiprys am Wobr Roland Mathias am ysgrifennu Cymreig yn Saesneg gwerth £2,000 a fydd yn cael ei chyflwyno ar Fawrth 27 mewn seremoni a gefnogir gan BBC Cymru ac yn cael ei harwain gan Nicola Heywood Thomas, cyflwynydd y rhaglen ‘Arts Show' ar BBC Radio Wales.
Dyfernir y wobr hon bob dwy flynedd am waith a gyhoeddwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ym maes barddoniaeth, straeon byr, beirniadaeth lenyddol neu hanes Cymru. Am y tro cyntaf mae'r beirniaid wedi dewis dau waith o feirniadaeth lenyddol, sydd yn dilyn hynt ysgrifennu yng Nghymru.
Cafodd Dr Prescott ei chynnwys ar y rhestr am ei gwaith diweddaraf, Eighteenth Century Writing from Wales: Bards and Britons, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru.
Yr enwau eraill ar y rhestr yw Jane Aaron, Athro Saesneg o Brifysgol Morgannwg, am Nineteenth Century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (Gwasg Prifysgol Cymru), y bardd ac awdur straeon byrion o Gaerdydd, Sheenagh Pugh, a enwebwyd am ei chasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Long Haul Travellers (cyhoeddwyd gan Seren), a’r awdur straeon byr Carys Davies, am ei chasgliad Some New Ambush (cyhoeddwyd gan Salt).
Dywedodd Menna Richards, Rheolwraig BBC Cymru, “Mae Gwobr Roland Mathias Prize yn gwneud cyfraniad pwysig i gynyddu ymwybyddiaeth o safon uchel llenyddiaeth Saesneg o Gymru. Rwyf wrth fy modd fod BBC Cymru yn parhau i gefnogi a dathlu cryfder ysgrifennu yng Nghymru heddiw.”
Sefydlwyd y Wobr er cof am y bardd a’r awdur Roland Mathias a fu farw yn 2007, ac a chwaraeodd ran bwysig yn sefydlu ysgrifennu Saesneg yng Nghymru fel ffurf lenyddol neilltuol. Enillwyr blaenorol y wobr yw’r ddau fardd, Dannie Abse a Christine Evans.
Mae beirniaid y gystadleuaeth yn cynnwys y bardd a’r beirniad Sam Adams, y nofelydd a’r bardd Chris Meredith, yr hanesydd llenyddol Moira Dearnley, yr awdur Catherine Merriman a’r cyn newyddiadurwr teledu Glyn Mathias.