Manteision amgylcheddol ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol
Dr Peter Dennis
04 Mawrth 2009
Dyfarnwyd €226,000 i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth fel rhan o gynllun Ewropeaidd gwerth €3m sydd yn dechrau yr wythnos hon ar y gwaith o fesur y manteision amgylcheddol sydd yn deillio o ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol.
Y ddelwedd draddodiadol sydd gennym o gefn gwlad yw bryniau tonnog, gwrychoedd blodeuog, adar ehedog a defaid a gwartheg yn pori'n dawel. Dros y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae'r ddelfryd brydferth hon wedi diflannu i raddau helaeth, gyda’r pwyslais yn gynyddol ar gynhyrchiant a ffermio dwys yn yr iseldir, sydd wedi arwain at rwygo’r gwrychoedd a defnydd helaethach o gemegau. Yn ei dro mae hyn yn anochel wedi effeithio ar fioamrywiaeth yr ardaloedd sy’n cael eu ffermio.
Ond bellach, gyda diddordeb cynyddol yn gyffredinol mewn ffyrdd o fyw sy’n gynaliadwy, mae’r prosiect ymchwil Ewropeaidd ‘BioBio Indicators for biodiversity in organic and low-input farming systems’, sy’n cael ei arwain gan Dr Peter Dennis o IBERS yn bwriadu edrych ar y gwerth a roddir ar ffermio yn yr hyn sy’n cael ei alw’n ardaloedd llai ffafriol – tiroedd anghysbell yr ucheldir a ffermydd mynydd ar draws Ewrop, gan fesur y buddiannau sy’n deillio ohonyn nhw, nad ydyn nhw ar y cyfan yn cael eu gwerthfawrogi.
Er bod mesurau ar waith i ailgyflwyno bioamrywiaeth i ffermio yn gyffredinol, i raddau helaeth mae’r ardaloedd mwy ymylol hyn wedi cadw eu cyflwr naturiol dros y blynyddoedd, ac er eu bod yn derbyn cyllid i gefnogi’r diwydiant ffermio, maen nhw bob amser yn gorfod bod yn atebol yn nhermau gwerth am arian, gan edrych ar gynhyrchedd y tir yn unig – sawl kilogram o gig oen neu litr o laeth sy’n cael eu cynhyrchu.
Dywed Dr Peter Dennis, arbenigwr mewn bioamrywiaeth a sustemau pori: “Mae llawer o werthoedd eraill gan y tiroedd hyn, ac rydyn ni fel grŵp o wyddonwyr yn awgrymu nifer o ffyrdd o fesur y tu hwnt i gynhyrchiant amaethyddol gan edrych ar y weithgareddau buddiol eraill gan ffermwyr yng nghefn gwlad.”
Dros y flwyddyn nesaf bydd Dr Dennis a’i dîm yn casglu basged o fesuriadau gwahanol, yn amrywio o faint o garbon a gweithgaredd sydd yn y pridd, o ficrobau i fwydod, at fesur amrywiaeth y planhigion nad ydyn nhw’n gnydau, yn ogystal â’r anifeiliaid sy’n gysylltiedig â’r amrywiol gynefinoedd, ac ar lefel y dirwedd, effaith ffermio ar gymeriad diwylliannol yr ardal, gyda waliau sych a gwrychoedd er enghraifft yn cynnig atyniad pwysig i dwristiaid yn ogystal ag amgylchedd braf i fyw ynddo.
Yna caiff y mesurau hyn eu cymhwyso i ardaloedd gwledig ar draws Ewrop, o ucheldiroedd Cymru i diroedd isel Gwlad Belg a’r Iseldiroedd ac yna i ardaloedd sychach Môr y Canoldir.
Yn y pen draw, bydd y prosiect yn cynnig argymhellion i’r Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas ag asesu’r cyfraniad a wneir gan ffermio i amcanion bioamrywiaeth a chadwraeth y Comisiwn, sy’n cynnwys atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Bydd y canlyniadau hefyd yn ychwanegu at yr wybodaeth y mae’r cyhoedd yn ei derbyn am y ffordd mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu, a allai fod yn fantais marchnata i’r ffermwyr dan sylw. Byddan nhw’n gallu dangos eu bod yn darparu cynnyrch bwyd iach, a hefyd un sy’n cael ei dyfu ar dir sy’n gyfoethog mewn natur, a lle mae cyfoeth cefn gwlad yn cael ei gadw.
Wrth i ni i gyd gynyddu ein hymwybyddiaeth o’r angen i fyw’n gynaliadwy, gallai hyn olygu y byddwch yn medru bwyta eich cig oen amser cinio dydd Sul heb deimlo’n euog am eich ôl troed carbon, gan brofi gwirionedd yr hen ddywediad bod ŵyn yr ucheldir yn fwy melys.
Mae Dr Peter Dennis yn ddarlithydd mewn ecoleg pori a bioamrywiaeth sustemau pori yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Ymunodd Peter, sydd yn wreiddiol o deulu o amaethwyr o ogledd Dyfnaint, â Phrifysgol Aberystwyth ym Medi 2006 o Sefydliad Macaulay, Aberdeen.
Mae’r prosiect ‘BioBio Indicators for biodiversity in organic and low-input farming systems’ wedi ei gyllido gan grant gwerth €3m oddi wrth Rhaglen Ymchwil, Hyfforddiant a Datblygu y Seithfed Fframwaith. Cydlynydd y prosiect yw Felix Herzog of Ganolfan Ymchwil Agroscope Reckenholz-Tänikon, Zurich, Y Swisdir.
Sefydlwyd y Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Ebrill 2008 ac mae yn un o grwpiau mwyaf yn Ewrop sydd yn gweithio ar atebion creadigol i rai o’r heriau mawr y mae’r byd yn ei wynebu heddiw ym meysydd defnydd cynaliadwy o’r tir, newid hinsawdd, ynni adnewyddol a diogelwch cyflenwadau bwyd a dwr. www.aber.ac.uk/ibers.