Blodau menyn yn datgelu oedran dôl
Dr John Warren
23 Mehefin 2009
Yn ystod haf llynedd lansiodd Dr Warren apêl yn wasg, gan gynnwys yTimes, ac ar y teledu a radio, ac ysgogwyd miloedd o bobl i fynd allan i'r caeau i gyfri nifer y petalau ar flodau menyn.
Roedd y dasg yn un syml: cyfri sawl blodyn menyn ymlusgol (Ranunculus repens) sydd â phetalau ychwanegol (h.y. mwy na phump) mewn sampl o 100. Roedd angen y dystiolaeth arno i brofi ei ddamcaniaeth fod nifer y blodau menyn sydd â mwy na phum petal yn sail ar gyfer amcangyfrif oedran cae neu ddôl.
Mae Dr Warren yn cyflwyno canlyniadau ei astudiaeth yn y rhifyn diweddaraf y cyfnodolyn Annals of Botany. Yno mae'n dadlau fod modd ychwanegu saith mlynedd at oedran cae neu ddôl am bob un blodyn menyn mewn 100 sydd â mwy o betalau na’r arferol.
Dewisodd y blodyn menyn ymlusgol ar gyfer yr astudiaeth gan taw yn llystyfol (clonio) y mae’n atgynhyrchu ei hunan.
“Dylai pob un o’r blodau fod yn meddu ar bum petal ond gall mwtadiadau olygu fod ganddo lawr mwy”, dywedodd Dr Warren. “Mae mwtadiadau yn digwydd yn aml pan fo planhigion yn clonio eu hunain (atgynhyrchu yn llystyfol) ac mae’r namau geneteg yma yn gynyddol, sydd yn golygu fod mwy ohonynt mewn hen gaeau lle mae’r blodau menyn yn hŷn.”
“Bydd y wyddoniaeth syml yma o ddefnydd i haneswyr a naturiaethwyr fel eu gilydd wrth iddynt geisio deall ein gorffennol a sut mae amrywioldeb y newid dros amser,” ychwanegodd.
Dangoswyd fod y dechneg hon yn gweithio ar gaeau sydd hyd at 200 mlwydd oed a chredir y gallai gael ei defnyddio i adnabod tir na chafodd ei droi gan aradr ers hyd at 1,000 o flynyddoedd. Gobaith Dr Warren nawr yw fod modd defnyddio’r dechneg i adnabod y darn tir glas hynaf ym Mhrydain.
Er hyn does dim disgwyl iddi weithio mewn caeau sydd yn hŷn na 1,000 o flynyddoedd gan nad yw canran y blodau sydd wedi clonio yn debygol o fod yn llawer uwch na 50 y cant o boblogaeth blodau menyn y cae.
O’r miloedd o adroddiadau gafodd ei hanfon ato gan y cyhoedd, cafodd 204 eu dewis ar gyfer yr astudiaeth. Darn o dir agored yng nghoedwig Roughetts Wood ger Casgwent, a’r llwybr sydd yn arwain ato, yw’r hynaf i gael ei ddyddio hyd yma. Mae cofnodion yn dangos na chafodd y darn hwn ei balu am o leiaf 200 mlynedd.
Yn yr un modd dangosodd mwtadiadau i flodau menyn mewn cae o eiddo Ysgol Llandrygarn ar Ynys Môn nad oedd y tir wedi ei aredig ers 30 mlynedd. Cadarnhawyd hyn gan gofnodion yr ysgol gan ei bod yn dangos fod perchnogaeth y cae wedi ei drosglwyddo o fferm leol i’r ysgol 30 mlynedd yn ôl.
Mae profi’r dechneg drwy gymharu’r canlyniadau gyda chofnodion trin y tir yn golygu ei bod yn fwy gwerthfawr gan fod modd ei defnyddio lle nad oes cofnodion perthnasol ar gael.
Datblygwyd techneg o amcangyfrif oedran cloddiau rai degawdau yn ôl. Mae Rheol Hooper yn galluogi naturiaethwyr i farnu oed clawdd drwy gyfri nifer y rhywogaethau coed sydd yno.