Cap cwyr pinc ar y plinth
Gary Easton a'r cap cwyr pinc yn ystod digwyddiad hyrwyddo gwyddoniaeth i ysgolion.
10 Gorffennaf 2009
Bydd y Dr Crockatt yn treulio’r awr yno i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ffyngau yn gyffredinol, a ffyngau glaswelltiroedd, megis capiau cwyr, yn benodol.
Mae gan Gymru, a’i heangderau mawr o laswelltir, bwysigrwydd arbennig i’r ffyngau hyn, yn fwy felly na’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn Ewrop. O ganlyniad, mae sawl safle yng Nghymru wedi’u cofnodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig; Arglawdd Cronfa Llanisien yng Nghaerdydd yw’r enwocaf – dim ond ar ôl cael dyfarniad gan yr Uchel Lys yn Llundain y llwyddwyd i restru’r safle hwnnw.
Yn ôl y Dr Gareth Griffith, sy’n arbenigo ar ecoleg ffyngau tir glas yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r cap cwyr pinc yn esiampl dda o’r bygythiad sy’n wynebu ffyngau tir glas. Yn ogystal â bod ymhlith y rhywogaethau prinnaf, mae’n debyg mai hwn yw’r prydferthaf o’r ‘capiau cwyr’, sef grŵp ffyngau lliwgar sydd dan fygythiad.
"Does dim llawer o organebau lle y gellir dweud bod gan Gymru bwysigrwydd arbennig rhyngwladol fel canolbwynt bioamrywiaeth, felly gobeithiaf y bydd Martha yn gallu codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o’u harwyddocâd," meddai.
Bydd yr Athro Lynne Boddy o Brifysgol Caerdydd, ecolegwr ffyngau o fri, a Llywydd Cymdeithas Mycoleg Prydain, yno hefyd i gefnogi Martha.
Mae hi’n gobeithio y bydd amser Martha ar y plinth hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw ffyngau i’n bywydau pob dydd, ac nid yr agweddau negyddol y mae llawer o bobl yn meddwl amdanynt gyntaf. Heb ffyngau, ni fyddai gennym gwrw, gwin, caws glas na Camembert, heb sôn am lawer o gyffuriau sy’n achub bywydau: penisilin a statinau yw’r enghreifftiau enwocaf. Ffyngau hefyd yw’r gweithwyr sy’n cael gwared ar ysbwriel byd natur, a hebddynt ni fyddai dail yn pydru, ac fe fyddai’r holl fywyd ar y tir yn dod i ben.
Bydd Martha ar y plinth am awr o 3 i 4 y bore, ddydd Sul 12 Gorffennaf.
“Os nad ydych wedi bwriadu mynd allan am noson hwyr yng nghanol Llundain, cewch ei gweld hi ar y rhyngrwyd http://www.oneandother.co.uk/ neu cewch ddysgu mwy ar dudalen Martha ar Facebook: Fungus on the Fourth Plinth”, ychwanegodd y Dr Griffith.