Gyrrwr economiadd
IBERS Gogerddan
20 Gorffennaf 2009
Mae adroddiad ar Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol ac Amaethyddol (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth gan yr ymgynghorwyr rhyngwladol DTZ yn dangos fod ei ymchwil yn amhrisiadwy wrth geisio datrys rhai o brif broblemau newid yr hinsawdd, sicrwydd bwyd ac afiechydon.
Wedi ei sefydlu 15 mis yn ôl, pan unwyd hen ganolfan ymchwil IGER yng Ngogerddan gyda Phrifysgol Aberystwyth, mae IBERS wedi ei sefydlu ei hun eisoes yn arweinydd rhyngwladol mewn gwaith ymchwil gwyddonol sy'n arwain at fanteision ymarferol a masnachol.
Yn ôl DTZ mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan IBERS mewn tri champws ar gyrion ac yn nhref Aberystwyth mor eang nes bod dadansoddiad llawn yn amhosib, ond maen nhw wedi darparu cip-olwg ar rai o’r prif elfennau.
Mae gwaith IBERS ei hun yn cynhyrchu bron i £60 miliwn i’r economi ac yn cefnogi bron i 700 o swyddi, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Mae yna 341 o wyddonwyr a staff cefnogi yn y Sefydliad - y casgliad mwyaf o arbenigedd o’i fath yn y Deyrnas Unedig.
Mae effaith gwaith ymchwil y Sefydliad werth hyd yn oed yn fwy - eisoes, mae’n arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn i ffermwyr a’r economi ehangach - a bydd y manteision yn y dyfodol hyd yn oed yn fwy. Dyma rai o uchafbwyntiau adroddiad DTZ:
- Gall gwaith y mae IBERS yn ei wneud ar leihau’r lefelau methan y mae anifeiliaid yn eu gollwng i’r atmosffer fod werth £322 miliwn i’r economi bob blwyddyn.
- Mae gwaith ymchwil a nwyddau cyfredol IBERS werth miliynau o bunnoedd ac hefyd yn darparu manteision anferth i’r economi ehangach - er enghraifft, mae mathau o borthiant a grawn yn cynhyrchu bron i £8 miliwn y flwyddyn mewn gwerthiant hadau.
- Mae ffermwyr yng ngwledydd Prydain yn arbed £13.5 miliwn mewn costau gwrtaith oherwydd gwaith ymchwil IBERS ar feillion.
- Mae canlyniadau’r ymchwil ar ychwanegu burum probiotig i fwyd gwartheg llaeth yn dangos y gallai’r cynnydd yn lefelau cynhyrchu llaeth olygu bod ffermwyr gwledydd Prydain ar eu hennill o £116 miliwn bob blwyddyn.
- Mae gwaith y Sefydliad yn gwella ansawdd a defnydd tir glas dros gyfnod o nifer o flynyddoedd am arbed amcangyfrif o £400 miliwn y flwyddyn mewn costau bwyd.
Bydd prosiectau ymchwil eraill yn arwain at frechiadau yn erbyn afiechydon drud byd-eang megis TB a bilharzia, paraseit sydd mewn dŵr ac sy’n effeithio ar 200 miliwn o bobl mewn gwledydd llai datblygiedig ac yn achosi 300,000 o farwolaethau bob blwyddyn.
Bydd nifer o’r prosiectau hefyd yn cynnig manteision amgylcheddol – er enghraifft, gallai datblygu miscanthus yn danwydd-bio gynhyrchu trydan i filiynau o bobl a lleihau’r lefelau carbon sy’n cael eu gollwng i’r aer, tra gall mathau newydd o borfa sy’n gwreiddio’n ddwfn helpu i atal llifogydd. Mae’r rheiny’n cael eu datblygu.
Mae elfennau eraill o waith ymchwil y Sefydliad yn cynnig tystiolaeth sy’n sail i bolisïau llywodraeth gan gynnwys pysgodfeydd cynaliadwy, gwella’r braster iach sydd mewn cig eidion, mesur cynhwysion da a gwael mewn bwyd a rhagweld sut y bydd plâu ac afiechydon fel malaria yn lledaenu.
Mae mentrau masnachol sydd wedi datblygu oherwydd ymchwil yn IBERS yn cynnwys dau gwmni bridio anifeiliaid a chynhyrchu offer tra bod partneriaeth fasnachol newydd hyd yn oed yn datblygu synhwyryddion sy’n cael eu rhoi ar awyrennau di-beilot sy’n gallu monitro cnydau ac asesu eu hangen am ddŵr a phla-laddwr.
“Dim ond darn bach o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn IBERS yw’r uchafbwyntiau yma,” meddai Cyfarwyddwr y Sefydliad, Yr Athro Wayne Powell. “Ry’n ni’n ganolfan ryngwladol o safon hynod o uchel ar gyfer gwaith ymchwil gwyddonol arloesol sy’n gallu cael ei addasu i ddatrys rhai o’r problemau mawr sy’n wynebu’r byd heddiw.
“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwerth ariannol ar lawer o’r gwaith ac yn dangos sut mae gwyddoniaeth da yn medru arbed biliynau o bunnoedd; nid oes modd gosod pris ar elfennau eraill o’n gwaith.”