Ofn, panig a'r cyfryngau
Yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth
07 Gorffennaf 2009
• Bydd haneswyr y cyfryngau pwysicaf y byd yn cwrdd â phobl flaenllaw o ddiwydiant y cyfryngau i ystyried sut mae ein byd wedi’i ddylanwadu gan y modd y mae’r cyfryngau wedi delio â’m hofnau, ein pryderon a’n panig dros y canrifoedd.
• Y prif siaradwyr fydd Syr Quentin Thomas, Llywydd Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain, y corff sy’n rhoi tystysgrifau i ffilmiau.
• Laurence Rees, hanesydd a chynhyrchydd sydd wedi ennill gwobrau lu. Mae ei waith yn cynnwys, ‘The Nazis a Warning From History’.
• Edward Mirzoeff – Cynhyrchydd Teledu a gwneuthurwr ffilmiau dogfen gyda’r BBC sydd wedi ennill gwobrau lu. Mae ei waith yn cynnwys Metro-land, 40 Minutes ac Elizabeth R.
• Will Wyatt – cyn reolwr gyfarwyddwr Teledu’r BBC a Phrif Weithredwr Darlledu’r BBC.
Dywed y trefnwyr, Dr Sian Nicholas a’r Athro Tom O’Malley:
“Mae’n bleser mawr gennym gynnal y digwyddiad rhyngwladol hwn sy’n canolbwyntio ar bwnc sydd o ddiddordeb i gynifer o bobl.
“Mae Aberystwyth yn ganolfan astudio hanes a’r cyfryngau, a chan hynny, edrychwn ymlaen at gynnal y digwyddiad pwysig hwn.
“Mae deall sut mae’r wasg, radio a theledu wedi delio â phynciau megis agweddau at afiechydon, rhyfel a goresgyniad yn hollbwysig os ydym am ddeall sut mae pethau wedi datblygu, o’r dyddiau cynnar drwodd i’r oes fodern.”