Cyfarwyddwr newydd
Dr Catrin Fflur Huws
27 Chwefror 2009
Mae Dr Huws yn ddarlithydd a chydlynydd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y dimensiwn Cymreig i’r Gyfraith, gan gynnwys effeithlonrwydd deddfwriaeth mewn hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, defnydd o’r iaith Gymraeg yn y llysoedd ac effeithiau tai anfforddadwy yng Nghymru wledig. Ar hyn o bryd mae ei hymchwil yn ystyried y berthynas rhwng y gyfraith a iaith mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg.
Mae Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn darparu canolbwynt ar gyfer trafodaethau ar faterion yn ymwneud â’r gyfraith a’r modd y mae’n cael ei gweinyddu o fewn Cymru, ac i sbarduno ymchwil a sylwebaeth.
Golyga datganoli a’i holl oblygiadau, gan gynnwys y posibilrwydd o hawliau deddfu cynradd yn y dyfodol ar angen am gydraddoldeb ieithyddol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg fel ieithoedd cyfreithiol, ynghyd â newidiadau i strwythur Gwasanaeth y Llysoedd, fod y sustem gyfreithiol yng Nghymru yn wynebu llu o heriau a chyfleoedd.
“Rydym yn gweld rôl bwysig i Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig yn y broses hon”, dywedodd Dr Huws. “Yn ogystal a bod sylwebydd ar y trafodaethau, byddwn yn cyfrannu atynt. Mae ymchwil y Ganolfan yn canolbwyntio ar y dimensiwn Cymreig i’r gyfraith, o safbwynt datganoli, hanes cyfreithiol Cymreig, yr hawl i gyfiawnder, a’r dimensiwn dwyieithog i’r gyfraith ac addysg gyfreithiol yng Nghymru. Rydym hefyd o’r farn ei bod yn bwysig i feithrin cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r gymuned ehangach, yn gyfreithwyr, academyddion a’r Llywodraeth.”