Dr Aileen Smith 1953-2009

Dr Aileen Smith
16 Rhagfyr 2009
Gyda thristwch mawr yr ydym yn eich hysbysu o farwolaeth Dr Aileen Smith, Uwch Ddarlithydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad. Bu farw ddydd Gwener 11eg Rhagfyr yn 56 oed.
Yn raddedig of Brifysgol Glasgow, derbyniodd Dr Smith radd MSc ym Mhrifysgol Natal yn 1978 a doethuriaeth o Brifysgol Birmingham yn 1980 cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel Cynorthwyydd Ymchwil Ol-Ddoethuriaethol ym mis Hydref 1980. Cafodd ei phenodi i swydd Darlithydd yn 1983 ac yna yn Uwch Ddarlithydd yn 1994.
Cynhelir gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Aberystwyth ddydd Gwener 18ed Rhagfyr am 2.15 y prynhawn. Yn dilyn hwn bydd derbyniad i ffrindiau a theulu yng Nghlwb Golff y Borth. Blodau'r teulu yn unig. Cyfraniadau at Nyrsys Macmillan neu elusenau cancr eraill.