Partneriaeth lwyddiannus
Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a'r Athro Merfyn Jones, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ar adeg arwyddo cytundeb y bartneriaeth yn 2006.
09 Rhagfyr 2009
Partneriaeth Aberystwyth/Bangor yn llwyddo tu hwnt i'r targed
Mae'r Bartneriaeth Ymchwil a Menter gafodd ei sefydlu gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi llwyddo tu hwnt i’w tharged ar gyfer cynhyrchu incwm ymchwil yn ôl adolygiad o’i gweithgareddau gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher 9 Rhagfyr.
Sefydlwyd y bartneriaeth arloesol hon yn 2006 gyda chefnogaeth ariannol o £10.9M gan Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru, gyda’r nod o adeiladu ar weithgareddau ymchwil a menter y ddwy brifysgol.
Gosodwyd targed incwm ymchwil ychwanegol o £11m a bydd aelodau’r Bartneriaeth a fydd yn mynychu’r adolygiad canol-tymor yn clywed fod cyfanswm o £13.25m eisoes wedi ei sicrhau gyda dwy flynedd yn weddill.
Ar y dechrau ffurfiwyd pedair canolfan ymchwil gyda dyheadau rhyngwladol; Canolfan Uwch Ddeunyddiau a Dyfeisiau Swyddogaethol (www.CAFMaD.ac.uk), Canolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig (www.CIRRE.ac.uk), Canolfan Ymchwil i Ddalgylch ac Arfordir (www.CCCR.ac.uk) a Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (www.IMEMS.ac.uk).
Yn ystod y tair blynedd aeth heibio mae’r pedair canolfan wedi datblygu cysylltiadau rhyngwladol, a thrwy recriwtio’r ymchwilwyr gorau a chyfranogaeth academyddion safon uchel presennol, cyhoeddir ymchwil yn rhyngwladol gan y Canolfannau hyn ac fe’i defnyddir gan wneuthurwyr polisi a sefydliadau yn fyd-eang.
Yn ddiweddar, crëwyd pumed canolfan, y Ganolfan Trosglwyddo Gwybodaeth a Dyfeisiau a Menter (CMTGaD) er mwyn adeiladu ar y gweithgareddau menter presennol rhwng y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMacY) yn Aberystwyth a’r hyn sy’n cyfateb iddynt: y Swyddfa Ymchwil Dyfeisiau (SYD, UIB gynt) ym Mangor. Bydd y Ganolfan newydd yma’n archwilio cyfleoedd i gefnogi’r cydweithio posibl ehangach rhwng y Bartneriaeth a sefydliadau eraill yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r Bartneriaeth Ymchwil a Menter yn galluogi Prifysgolion Aberystwyth a Bangor i fod yn gystadleuol yn rhyngwladol ac ymateb i brif heriau. Mae’n darparu ystod o arbenigedd sy’n ofynnol i fod yn effeithiol ac i hwyluso mabwysiadu’r agwedd ar sail problem a rhyngddisgyblaethol at ymchwil sy’n hanfodol yn y byd heddiw. Mae’r Bartneriaeth hefyd yn pwysleisio effaith ymchwil a’r cysylltiad agos rhwng ymchwil a menter. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen nawr i ddyfnhau ac ehangu’r bartneriaeth rhwng y ddwy brifysgol.”
Dywedodd yr Athro Merfyn Jones, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae Partneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn amlwg yn cyfrannu tuag at y dyhead i Gymru gael ei hadnabod yn rhyngwladol am ei rhagoriaeth ymchwil. Mae’r Bartneriaeth yn denu ymchwilwyr o safon uchel ac yn creu cymuned ymchwil ffyniannus sy’n magu grym academaidd y dyfodol yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, ac mae’n cwblhau ymchwil ag effaith sy’n cyfrannu i ffabrig economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a’r byd ehangach.”
Cafodd Adolygiad Canol-tymor y Bartneriaeth Ymchwil & Menter ei gynnal yng Ngwesty & Spa St David’s, Caerdydd Ddydd Mercher, 9 Rhagfyr 2009.