Barlys lleol ar gyfer cwrw lleol
Huw McConochie
29 Ebrill 2009
Dydd Mercher 29 Ebrill 2009
Barlys lleol ar gyfer cwrw lleol
Mae Pipkin, math o farlys brâg gaeaf gafodd ei ddatblygu yn Aberystwyth yn y 1970au, yn cael ei dyfu o'r newydd ar dir un o ffermydd Prifysgol Aberystwyth ac yn cael ei ddefnyddio gan fragdy yn Llanarth, Bragdy Bwthyn Penlon.
Ers dwy flynedd mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu agenda gynaliadwy ac yn defnyddio mwy a mwy o fwyd gan gynhyrchwyr lleol a’i ffermydd ei hunan. Canlyniad hyn yw fod milltiroedd bwyd wedi gostwng yn sylweddol gyda chig oen, enillydd yng Ngwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/9, a chig eidion yn teithio cyn lleied â 40 milltir o giât y fferm i’r plât.
Mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn golygu fod y barlys sydd yn cael ei ddefnyddio gan Fragdy Bwthyn Penlon i gynhyrchu ‘Cardi-bay’, cwrw chwerw y maent newydd ei lansio, yn teithio 10 milltir yn unig cyn bragu.
Yn 1978 dyfarnwyd y Cwpan Parhaol am y math newydd gorau o farlys i Pipkin gan y Sefydliad Bragu ac arhosodd ar y brig fel barlys bragu blaenllaw drwy gydol yr 80au a’r 90au cyn colli ei boblogrwydd.
Cafodd ei fridio yn wreiddiol gan Fridfa Blanhigion Gogerddan. Daeth y Fridfa yn rhan o Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol a Tir Glas (IGER) a daeth y sefydliad hwnnw yn ei dro yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad y Brifysgol – IBERS.
O dan gyfarwyddiaeth Rheolwr Ffermydd y Brifysgol, Huw McConochie, atgynhyrchwyd y math yma o farlys drwy dyfu had ar y raddfa fyddai’n dderbyniol i ffermydd o stociau genetig a gedwid gan IBERS. Gwnaethpwyd arbrawf cynhyrchu gyda thua 10 tunnell yn ystod 2007-2008 ar fferm Morfa ger Aberaeron, Ceredigion.
Datblygwyd y cysyniad i gynnig mwy y gynnyrch y Brifysgol yn TaMed Da, bwyty’r Brifysgol ar gampws Penglais, gan Huw a Kevan Downing, Pennaeth Arlwyo, a derbyniodd gefnogaeth uwch swyddogion y Brifysgol yn ogystal â’r undebau amaethyddol.
‘Mae llwyddiant y fenter yn dyst i waith caled ac ymroddiad staff yr adran arlwyo a’r ffermydd’, dywedodd Huw.
Sefydlwyd Bragdy Bwthyn Penlon 5 mlynedd yn ôl gan Penny and Steffan Samociuk.