'Y Tic Dwbl'
Logo Y Tic Dwbl
09 Ebrill 2009
Ystyr ‘Y Tic Dwbl’ yw fod y Brifysgol yn gadarn o blaid gyflogi pobl ag anableddau a chynorthwyo aelodau staff sydd ag anabledd. Er mwyn ei hachredu roedd yn ofynnol i’r Brifysgol ymrwymo i bum peth:
1. I gyfweld pob ymgeisydd anabl sydd yn cyrraedd y criteria isaf angenrheidiol ar gyfer swydd wag ac i’w hystyried ar sail eu galluoedd;
2. I sicrhau fod mecanwaith yn ei le, ar unrhyw adeg ac o leiaf unwaith y flwyddyn, gyda gweithwyr anabl er mwyn trafod beth ellir ei wneud er mwyn sicrhau eu bod yn medru datblygu eu galluoedd;
3. I wneud pob ymdrech i sicrhau fod gweithwyr yn aros mewn gwaith os daw anabledd i’w rhan;
4. I gymryd camau i sicrhau fod y gweithwyr i gyd yn datblygu ymwybyddiaeth briodol o anabledd er mwyn sicrhau fod yr ymrwymiadau yma yn gweithio;
5. I adolygu y pum ymrwymiad a’r hyn a gyflawnwyd yn flynyddol yn ogystal â chynllunio sut y gellir eu gwella ac hysbysu’r gweithwyr a Chanolfan Byd Gwaith am yr hyn sydd yn digwydd a’r cynlluniau am y dyfodol.
Yn ddiweddar darparodd y Brifysgol hyfforddiant e-ddysgu gorfodol ar amrywioldeb i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddeddfau cydraddoldeb, hyfforddiant a oedd yn cynnwys modiwl ar anabledd.
Dywedodd Dr. John Harries, Cadeirydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol; “Rydym yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb drwy’r Brifysgol ac yn gweithio tuag at Gynllun Cydraddoldeb unedol sydd yn ateb anghenion ein staff, myfyrwyr a’r gymuned. Rydym yn falch ein bod wedi cwblhau’r meini prawf a byddwn yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd.”
Dywedodd Mr. Stuart Edwards, Ymgynghorydd ar Lwybrau ac Anabledd mewn Cyflogaeth, a gynhaliodd yr adolygiad ‘Y Tic Dwbl’ blynyddol ar gyfer y Brifysgol; “Mae’r Symbol Anabledd yn dangos fod y Brifysgol yn gyflogwr amrywiol sydd wedi ymrwymo i gyflogi pobl ar sail eu galluoedd ac yn dangos agwedd gadarnhaol tuag at yr holl ymgeiswyr a fyddai, efallai, yn ofn datgelu eu hanabledd yn y gorffennol.”