Astudio silff iâ
Dr Bryn Hubbard gyda colofn iâ
08 Ebrill 2009
Chwe awr wedi gadael dinas Cape Town glaniodd yr awyren Ilyushin Rwsaidd, pryn ei moethusrwydd, yn y ganolfan begynol Novolazervskaya. Roedd hi'n ddiwrnod braf o haf a’r tymheredd wedi dringo i 17 gradd o dan y rhewbwynt.
Rwsiaid ar eu gwyliau oedd nifer o’r teithwyr ar fwrdd yr awyren, ar drywydd pleserau haf yr Antarctig. Ond roedd Dr Hubbard yno fel rhan o daith gan wyddonwyr o Wlad Belg i astudio silffoedd iâ Dronning Maud Land, ardal o’r Antartig sydd gyferbyn â phegwn deheuol cyfandir Affrica.
Pan chwalodd Silff Iâ Larsen B yn yr Antarctig yn 2002 roedd hi’n ymddangos taw sgil-effaith gynnar i’r newid yn yr hinsawdd ydoedd. Cymerwyd yn ganiataol taw y silff iâ hir hon yng ngogledd orllewin Mor Weddell oedd y ddiweddaraf i ddiflannu o ganlyniad i hafau cynhesaf na’r arfer yn yr Antarctig, a chynhesu byd-eang.
Ond mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2008 gan yr Athro Neil Glasser, cydweithiwr i Dr Hubbard yma yn Aberystwyth, dangoswyd bod mwy i gwymp Larsen B nag a sylweddolwyd ar y pryd.
Dadl yr Atho Glasser oedd fod y silff iâ wedi bod yn dirywio dros gyfnod llawer hirach ac nad cynhesu byd-eang yn unig achosodd iddi chwalu mewn ffordd mor ddramatig. Roedd gwendidau a oedd yn bresennol ynddi ers blynyddoedd mawr yn rhannol gyfrifol yn ogystal.
I nifer o rewlifegwyr, gan gynnwys Dr Hubbard a’i gydweithwyr o wlad Belg, roedd y darganfyddiad hwn yn codi cwestiwn pwysig. Mae gwendidau ym mhob silff iâ. Felly pam nad yw pob un ohonynt yn chwalu yn yr un ffordd?
Mae rhewlifegwyr yn gwybod ers cryn amser fod dŵr môr o dan silff iâ yn rhewi yn raddol ac yn dod yn rhan o’r iâ. Pwrpas taith Dr Hubbard oedd astudio’r ffenomenon yma a dyfalu a yw’r iâ newydd hwn yn gallu cryfhau’r silff drwy weithredu, yn ei eiriau ef, fel ‘polyffila’.
Y ganolfan newydd, Gorsaf Princess Elizabeth, oedd prif wersyll y tîm o bump – adeilad trawiadol yr olwg, a’r ganolfan ymchwil carbon-niwtral gyntaf ar y cyfandir yn ôl y pensaer.
180 km i’r gogledd o Orsaf Princess Elizabeth aeth y tîm ati i astudio’r silff iâ. Torrwyd drwy’r iâ mewn pum lle drwy ddefnyddio dril pwrpasol a thynnwyd colofn iâ oedd yn ymestyn yr holl ffordd drwy’r silff i’r môr islaw.
Mae’r iâ ar wyneb y silff yn frith o bocedi awyr ac mae’r awyr hwn yn gofnod pwysig o lefelau carbon deuocsid yn yr amgylchedd dros filoedd o flynyddoedd. Ond mae colofnau a dynnwyd o iâ sydd newydd ffurfio o ddŵr y môr o dan y silff iâ yn debycach i wydr gwyrdd-las golau ac heb yr un boced awyr.
Gwahoddwyd Dr Hubbard i fod yn rhan o’r daith am ei arbenigedd mewn defnyddio dril iâ a thelewyliwr optegol, sef camera teledu bach a ddatblygwyd gan ddaearegwyr er mwyn astudio creigiau wrth chwilio am dyddodion mwynol gwerthfawr.
Wrth i’r camera ddisgyn drwy’r twll yn yr iâ roedd yn creu cofnod gweledol o’r iâ a’i nodweddion gwahanol. Darparodd y gwaith hwn rai o’r lluniau cyntaf erioed o iâ môr ac amlygwyd nodwedd nad yw rhewlifegwyr yn gwybod llawer amdani hyd yma, sef metrau ar fetrau o ddŵr slwtshlyd yn graddol rewi i ffurfio iâ môr.
Mae astudiaeth o’r math yma yn darparu data gwerthfawr i Dr Hubbard ar sut mae silffoedd iâ yn ffurfio ac yn chwalu. Ers blynyddoedd bu’n gweithio ar fodelau mathemategol sydd yn cynrychioli llif iâ mewn rhewlifoedd yn yr Andes, yr Himalaya a’r Alpau.
Mae’r modelau yma yn cael eu defnyddio’n fwyfwy er mwyn rhagweld newidiadau i ddarnau mawr o iâ o ganlyniad i gynhesu byd-eang. Ond nid ydynt yn esbonio paham nad yw’r silff iâ yn Dronning Maud Land wedi chwalu fel y gwnaeth Larsen B.
O’i holi am yr oblygiadau i lefelau dwr môr pan fo silffoedd iâ yn chwalu esboniodd Dr Hubbard fod yna newyddion da a drwg.
“Ar yr ochr gadarnhaol mae silff iâ sydd yn fflotian ar yr wyneb eisoes yn dadleoli ei phwysau yn y dwr, felly does dim effaith uniongyrchol pan fo un yn chwalu. Ond, mae’r silffoedd iâ yn amddiffynfa bwysig rhwng y môr a rhai o rewlifoedd mwyaf y byd.”
“Gall chwalu silff iâ olygu fod y rhewlifoedd hynny yn agored i’r môr gan achosi iddynt gyflymu a rhyddhau llawer iawn o ddŵr i’r môr, a thrwy hynny achosi i lefelau’r môr godi – tu hwnt i’r hyn sydd yn cael ei ragweld ar hyn o bryd,” ychwanegodd.
Does dim prawf o hyn hyd yma, a bydd angen ymweld eto ag un o ardaloedd harddaf a digroeso’r blaned er mwyn deall mwy.