Milltiroedd bwyd
Huw McConochie, Rheolwr Ffermydd y Brifysgol (chwith) a Kevan Downing, Pennaeth Gwasanaethau Croeso'r Brifysgol yn lansiad Undeb Amaethwyr Cymru
16 Medi 2008
Yn ystod y misoedd diweddar mae TaMed Da, bwyty'r Brifysgol ar gampws Penglais, wedi mynd gam ymhellach ac yn cynnig cig eidion Gwartheg Duon Cymreig a chig oen Cymreig sydd wedi ei fagu ar ffermydd y Brifysgol, ochr yn ochr â chynnyrch lleol gan Laethdy Organig Rachel’s, Wyau Birchgrove a’r cigydd lleol Robert Rattray.
Bellach mae rheolwr ffermydd y Brifysgol, Huw McConochie, yn ystyried cynyddu’r cynnyrch sydd yn cael ei dyfu ar y ffermydd. Ym mis Medi byddant yn darparu tatws ac mae cynlluniau ar gyfer tyfu bresych yr ŷd, neu rêp fel y mae’n cael ei adnabod, ar gyfer cynhyrchu olew coginio i’r ceginau a biodanwydd.
Dros gyfnod yr haf cafodd y datblygiadau yma gryn sylw yn y wasg a buont yn sail ar gyfer lansio ymgyrch gan Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd. Cafodd Huw a Kevan Downing, Pennaeth Gwasanaethau Croeso Prifysgol, eu gwahodd i lansiad ymgyrch ‘Prynwch yr un Cymreig’ yr Undeb.
Wrth siarad gyda chynulleidfa lawn o newyddiadurwyr llongyfarchodd Llywydd yr Undeb Gareth Vaughan y Brifysgol a disgrifiodd y datblygiad fel enghraifft wych o’r modd y gall pobl a sefydliadau brynu bwyd oddi wrth gynhyrchwyr lleol.
Esboniodd Huw wrth y newyddiadurwyr fod y datblygiadau yma wedi lleihau milltiroedd bwyd y Brifysgol yn sylweddol. O’r buarth i’r bwrdd cyfanswm y milltiroedd ar gyfer y cig eidion a’r cig oen yw 36 milltir yn unig.
Ffactor bwysig yn llwyddiant y fenter yw safon a ffresni’r bwyd yn ôl Kevan Downing.
"Mae lleihau ein ôl troed carbon yn nod cyson i wasanaethau croeso’r Brifysgol ar yr un llaw, tra’n bod yn darparu bwyd cyffrous, ffres a bwydlen iach a chytbwys, gyda chynhwysion lleol pan fo hynny’n bosibl.”
Trawsnewid bwyty’r Brifysgol
Mae adnoddau arlwyo’r Brifysgol ar gampws Penglais wedi eu trawsnewid yn dilyn buddsoddiad o £300,000.
Agorwyd y bwyty newydd, sydd yn arddel yr enw TaMed Da, ar ei newydd wedd ym mis Medi 2007. Cafodd ei ymestyn yn ystod y gwanwyn a bellach mae’n cynnwys ystafell haul ac ardal ar gyfer bwyta allan yn yr awyr iach.
Dywedodd Kevan Downing;
“Roeddem eisiau creu rhywbeth oedd cystal, os nad yn well nac unrhyw beth y mae’r myfyrwyr yn debygol o’i gael yn y dre. Rydym nawr yn cynnig bwydlen iach ac eang, bar salad a chawl, cig wedi rostio, paninis, bwydydd arbennig, llysiau ffres, cownter bwyd parod a bar coffi a sudd masnach deg. Mae hefyd yn cynnwys theatr goginio lle gall pobl weld yn bwyd yn cael ei baratoi.”
Gymaint fu llwyddiant y fenter fel bod gwerthiant wedi codi 30% ac mae disgwyl i TaMed Da gyrraedd trosiant o £1m am y tro cyntaf yn fuan.
Fel rhan o’r fenter mae TaMed Da yn cyflwyno nifer o agweddau newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Ychwanegodd Kevan; “Byddwn yn lansio cylchgrawn misol newydd ‘Y Foodancial Times’ fydd yn cynnwys erthyglau nodwedd a hyrwyddiadau, ryseitiau tymhorol a llythyron at y golygydd.”
Bathwyd yr enw TaMed Da gan Gofrestrydd ac Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Catrin Hughes. Cafodd yr ystafell haul newydd ei hagor yn swyddogol gan Catrin ym mis Mai a derbyniodd grys ‘T’ arbennig i nodi’r achlysur.