Datblygiad Datganoli
Winston Roddick
20 Tachwedd 2008
Cynhelir y ddarlith am 7.y.h ar Nos Wener, Tachwedd 28ain ym Mhrif Neuadd yr Adran Wleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Croeso cynnes i bawb.
Winston Roddick yw arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer. Daeth yn Gwnsler i'r Frenhines ym 1986, ac yn Gofiadur ym 1987. Pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, fe'i penodwyd fel y Cwnsler Cyffredinol. Bellach y mae wedi dychwelyd i weithredu fel bargyfreithiwr. Y mae hefyd yn Gadeirydd i Bwyllgor Sefydlog ar Gymru’r Gyfraith ac Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth.
Trefnir y ddarlith gan y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig sydd yn rhan o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Sefydlwyd Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ym mis Ionawr 1999, gyda'r bwriad o atgyfnerthu a rhoi ffocws i waith ac arbenigedd yr Adran ym maes y Gyfraith a'i pherthnasedd i Gymru, a datblygiadau cyfreithiol cyffredinol sy'n gysylltiedig â Chymru.
Prif amcan y Ganolfan yw ystyried a oes ffordd benodol Gymreig o edrych ar faterion cyffredinol o fewn i system gyfreithiol Cymru a Lloegr, a sicrhau bod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach datblygiadau Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol.
Y symbyliad i greu'r Ganolfan oedd Datganoli, sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru, a gweld trefn gyfreithiol ag iddi ymdeimlad Gymreig bendant yn dod i'r amlwg. Ar hyn o bryd mae’r broses o roi datganoli ar waith yn rhan bwysig o weithgaredd y Ganolfan, o safbwynt y gyfraith gyhoeddus sy’n ymwneud â strwythurau a gweithrediadau’r Cynulliad ei hun, ac o safbwynt cyfreithiau a ddatblygir gan y Cynulliad.
Y mae’r gwaith serch hynny, yn mynd ymhellach na phrosesau a gweithrediadau datganoli: mae aelodau o’r Ganolfan yn gweithio ar brosiectau eraill perthnasol, gan gynnwys hawliau dynol, rhyddid mynegiant, yr iaith Gymraeg, a chyfiawnder troseddol mewn cyd-destun Cymreig.
Ceir gwybodaeth bellach am waith y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cwla/index.htm.