Fluxus 1968-2008
Poster
27 Tachwedd 2008
(gyda Chlinig Flux ar agor 4-6yh ac o 7yh)
“The Fluxus Concert was a real success… Slides of cowboy drawings. We pull crackers, burst bags, howl. Somebody chases his mate around the parish hall to hit him. Flux-Pin-Up No. 1 showers down. It is a picture of Brian. …
People howl and throw streamers, and stick coloured papers on their faces, and somehow behind the light Brian throws us another set of instructions. Caution, Art Corrupts."
(John Hall, ‘A State of Flux – John Hall at the Aberystwyth Festival', The Guardian 30 Tachwedd 1968)
O 27 i 29 Tachwedd 1968, roedd yr artist Brian Lane yn Aberystwyth gyda'i gydweithwyr, sef y First Dream Machine, i drefnu digwyddiad tridiau Fluxus. Roedd wedi’i wahodd gan Ŵyl Flynyddol y Celfyddydau yn Aberystwyth, sef pwyllgor o fyfyrwyr Coleg Prifysgol Aberystwyth. Roedd natur gyfranogol a llawn dychymyg Fluxus yn apelio at y trefnwyr a oedd, yn ôl y gwahoddiad, yn awyddus "i gyrraedd cynulleidfa eang" ac yn "ceisio rhoi hwb o’r newydd i’r Ŵyl drwy hyrwyddo’r syniad mai rhywbeth i’w fwynhau yw Celf."
Ymatebodd Brian Lane drwy lunio rhaglen uchelgeisiol i Aberystwyth: cyngerdd 12 awr o gerddoriaeth electronig (gan gynnwys darnau gan Karlheinz Stockhausen, Pierre Henry a Adrian Nutbeem), un o’r Fluxusclinics cyntaf ym Mhrydain, arddangosfa o waith graffig rhyngwladol a sesiwn Total Theatre. Roedd Flux Concert yn ganolbwynt i’r ŵyl, gyda pherfformiadau o’r darnau Fluxus, sydd yn glasuron erbyn hyn, gan George Maciunas, Ben Vautier, George Brecht a Chieko Shiomi.
Eleni gwelwyd cryn bwyso a mesur ar ddylanwad chwyldroadol y flwyddyn 1968, ac rydym ni yn rhoi teyrnged i’r enghraifft arloesol hon o ymarfer celfyddydol arbrofol yn union ddeugain mlynedd ar ôl y digwyddiad cyntaf. Bydd artistiaid sy’n gweithio yn Aberystwyth yn perfformio eu dehongliad nhw o’r deunydd Fluxus gwreiddiol a ddefnyddiwyd ym 1968.
Mynediad am ddim. I archebu tocynnau, ewch i www.performance-wales.org, ffôn: 01970 621911.
"...os na wyddoch beth yw Fluxconcert, rhaid i chi ddod a gweld drosoch eich hun… "
[Brian Lane, 1968]
Mae’r ail-lwyfannu hwn yn rhan o ‘What’s Welsh for Performance? Beth yw performance’ yn Gymraeg? Prosiect ymchwil i ddadorchuddio ac archifo hanes Celf Perfformio yng Nghymru.
Cyfarwyddwr y Prosiect yw Dr Heike Roms, Astudiaethau Perfformio, Prifysgol Aberystwyth. Trefnwyd y digwyddiad gyda chefnogaeth Gwobrau Syr David Hughes Parry 2008.
FLUXUS:
An international avant-garde group or collective founded and given its name in 1960 by the Lithuanian/American artist George Maciunas; originally for an eponymous magazine featuring the work of a group of artists and composers centred around John Cage. The Latin name means flowing. In English a flux is a flowing out. Maciunas said that the purpose of Fluxus was to 'promote a revolutionary flood and tide in art, promote living art, anti-art'. This has strong echoes of Dada with which Fluxus had much in common. The group coalesced on the continent, first in Germany where Maciunas worked for the US Army. Fluxus subsequently staged a series of festivals in Paris, Copenhagen, Amsterdam, London and New York at which activities included concerts of avant-garde music and performances often spilling out into the street. Almost every avant-garde artist of the time took part in Fluxus, such as Joseph Beuys, Dick Higgins, Alice Hutchins, Yoko Ono, Nam June Paik, Ben Vautier, Robert Watts, Emmett Williams, and it played an important part in the opening up of definitions of what art can be that led to the intense and fruitful pluralism seen in art since the 1960s (see eg Conceptual art, Performance art, Film & Video art, Postmodernism). Its heyday was the 1960s but it still continues.