Perfformio a Gwleidyddiaeth
Yr Athro Joe Roach
23 Mai 2008
Yr Athro Joe Roach (Prifysgol Yale): World Performance Project
Dydd Llun 2 Mehefin 10.30-12.00 Ystafell Seminar Ôl-radd, Adeilad Parry-Williams.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi fod yr Athro Joe Roach wedi cytuno i ymuno â ni yn Aberystwyth yn ystod ei ymweliad diweddaraf â'r Deyrnas Gyfunol er mwyn gwneud cyflwyniad a chyfrannu at Gyfres Siaradwyr Adnabyddus y Grŵp Ymchwil Perfformio a Gwleidyddiaeth.
Mae Joe yn Aelod o Adran Saesneg Prifysgol Yale ac yn ffigwr amlwg ym maes Astudiaethau Theatr a Pherfformio. Mae cyhoeddiadau dylanwadol ganddo yn cynnwys Critical Theory and Performance (1992); Cities of the Dead: Circum-Atlantic Performance (1997); and “It” (2007). Bydd yn cyflwyno ei ymdrech ddiweddaraf, World Performance Project.
Mae’r Grŵp Ymchwil Perfformio a Gwleidyddiaeth yn cynnwys staff o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol a’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Os am wybod mwy cysylltwch â Richard Allen rka@aber.ac.uk