Ffiseg ar frig tabl Guardian
Sefydliad Mathemateg a Ffiseg
16 Mai 2008
Dysgu Ffiseg yn Aberystwyth ar frig tabl y Guardian
Mae myfyrwyr Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn hapusach gyda safon y dysgu yn eu pwnc na myfyrwyr sydd yn astudio'r pwnc mewn unrhyw Brifysgol arall yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl y Guardian University Guide 2009 gafodd ei gyhoeddi yr wythnos hon.
Mae 10 maes dysgu sydd ar gael yn Aberystwyth yn ymddangos yn y 10 uchaf o ran bodlonrwydd myfyrwyr gyda safon y dysgu yn ôl y Guardian University Guide 2009.
Y meysydd yw:
1. Ffiseg: 1af, bodlonrwydd myfyrwyr gyda'r dysgu o 94%
2. Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff: 3ydd, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 97%
3. Gwyddorau Daear a Môr: cydradd 3ydd, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 94%
4. Economeg: 3ydd, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 91%
5. Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol: 4ydd, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 95%
6. Amaeth a Choedwigaeth: cydradd 4ydd, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 88%
7. Astudiaethau Americanaidd: cydradd 4ydd, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 93%
8. Astudiaethau Cyfryngau, Cyfathrebu a Llyfrgellyddiaeth: cydradd 6ed, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 81%
9. Gwleidyddiaeth: 7ed, bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 93%
10. Saesneg: 10ed, gyda bodlonrwydd myfyrwyr gyda’r dysgu o 94%.
Meysydd academaidd eraill sydd yn cael eu dysgu yn Aberystwyth sydd yn ymddangos yn y 30 uchaf: Cyfrifiadureg 11eg (85%), Celf a Dylunio 18ed (82%), Hanes 22in (93%), Ieithoedd Modern 22ain (89%) a Gwyddorau Biolegol 27ain (82%).
Dywedodd yr Athro Greaves, Pennaeth y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg:
“Mae staff Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn falch o dderbyn y gydnabyddiaeth hon oddi wrth ein myfyrwyr. Mae nifer o ffactorau yn cyfrannu at foddhad myfyrwyr, ond un rheswm sylweddol am hyn yma yn Aberystwyth yw maint cyfforddus y dosbarthiadau yma, sydd yn cymell y myfyrwyr i ddysgu.”
“Mae’n galonogol fod ein cyrsiau yn cael y fath ymateb cadarnhaol. Mae llawer fawr o waith yn mynd i sicrhau fod staff ar gael ar gyfer sesiynau labordy, prosiectau, ayyb, ac mae’n braf gweld fod hyn yn cael ei werthfawrogi gan fyfyrwyr. Mae Aberystwyth yn lle gwych i astudio ac i ymwneud â Ffiseg, yn ogystal â chynnig amgylchedd ymlaciol i ddysgu,” dywedodd.
Mae manylion llawn y Guardian University Guide 2009ar gael ar lein; http://education.guardian.co.uk/universityguide2009.