Tirluniau'r Mabinogi
Yr Hen Goleg
15 Mai 2008
Tirluniau'r Mabinogi
Bydd Dr John Bollard, Uwch Olygydd yr African American National Biography ym Mhrifysgol Harvard, a Golygydd Gyfarwyddwr y Native American Biography Project, yn ymweld a Phrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 23 Mai i draddodi darlith yn Saesneg ar y pwnc ‘Landscapes of the Mabinogi'.
Cynhelir y ddarlith, sydd yn cael ei threfnu gan Adran y Gymraeg, yn yr Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg am 5 o’r gloch. Bydd derbyniad i ddilyn.
Mae erthyglau Dr Bollard ar strwythur Y Mabinogi yn cael eu cydnabod fel gweithiau arloesol a dorrodd dir newydd yn ein dealltwriaeth o’r clasuron Cymreig. Yn ddiweddar cafodd dwy gyfrol o gyfieithiadau, sydd yn cynnwys ffotograffau tirwedd gwych gan Anthony Griffiths o Aberystwyth, eu cyhoeddi gan Gwasg Gomer: The Mabinogi: Legend and Landscape of Wales (2006) and Companion Tales to the Mabinogi (2007).
Derbyniodd Dr Bollard radd BA o Brifysgol Rochester yn Efrog Newydd, ac yna, wedi iddo ymddiddori mewn llenyddiaeth ganoloesol, a’r traddodiad Arthuraidd yn arbennig, daeth i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i ddilyn cwrs MA mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Derbyniodd ddoethuriaeth o Brifysgol Leeds am astudiaeth gymharol o naratif Saesneg a Chymraeg Canol.
Yn ogystal â dilyn gyrfa fel geiriadurwr a golygydd yng ngorllewin Massachusetts, mae Dr. Bollard wedi dysgu cyrsiau ar lenyddiaeth Gymreig yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Massachusetts, Prifysgol Connecticut, a Phrifysgol Yale, a hefyd cyrsiau Saesneg yng Ngholeg Smith a Choleg Mount Holyoke, ac wedi darlithio’n eang ar lenyddiaeth a hanes Gymreig yr Oesoedd Canol.
Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfieithiadau o farddoniaeth Arthuraidd gynnar, rhamant Peredur, barddoniaeth broffwydol Myrddin, a’r Wife of Bath’s Tales gan Chaucer.
Mae gwraig Dr Bollard, y bardd Margaret Lloyd, yn ymweld â Chymru y gwanwyn hwn hefyd: ei chyfrol ddiweddaraf yw: A Moment in the Field: Voices from Arthurian Legend.