Ysgoloriaethau ôl-raddedig
Yr Hen Goleg
12 Mehefin 2008
Ysgoloriaethau ôl-raddedig Cyfrwng Cymraeg (PhD) ym Mhrifysgol Aberystwyth
Gwahoddir ceisiadau am bedair ysgoloriaeth PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddechrau ar 1 Hydref 2008 yn y meysydd canlynol:
• Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
• Theatr, Ffilm a Theledu
• Y Gyfraith
• Seicoleg
Cynigir yr ysgoloriaethau am gyfnod o ddim mwy na phum mlynedd, ac maent yn cynnwys ffioedd a chynhaliaeth dros gyfnod yr astudiaeth. Disgwylir i ddeiliaid yr ysgoloriaethau gyfrannu at ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Bydd graddedigion sydd eisoes wedi astudio ar gyfer gradd meistr yn astudio am 4 blynedd, a bydd graddedigion sydd heb radd meistr yn astudio am 5 mlynedd, ac yn derbyn hyfforddiant ymchwil yn ystod y flwyddyn gyntaf. Yn y ddau achos, ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth fel blwyddyn gymrodoriaeth pan fydd y dyletswyddau dysgu'n cynyddu. Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth ymchwil yn ogystal ag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyllidir yr ysgoloriaethau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy'r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg fel rhan o Strategaeth cyfrwng Cymraeg prifysgolion Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Brifysgol hefyd yn cyfrannu’n ariannol at y cynllun drwy gyfrannu at gyflog y deiliaid yn ystod y flwyddyn olaf.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer y pedair ysgoloriaeth yw 16 Mehefin 2008.
Ymholiadau anffurfiol at Dr Mari Elin Jones, Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, 01970-622045, mlj@aber.ac.uk.