Doethuriaeth Joan
Dr Joan Hughes gyda Dr Huw Meirion Edwards
16 Gorffennaf 2008
Un o fyfyrwyr aeddfed y Radd Allanol yw Joan Hughes. Dilynodd gynllun y Radd Allanol yn y Gymraeg rhwng 1995 a 2000, gan ennill gradd BA Anrhydedd 2i wedi cyfnod o astudio dwys. Aeth ymlaen, dan gyfarwyddyd Dr. Huw Meirion Edwards, i gwblhau traethawd MPhil. ar y Piwritan a’r cyhoeddwr enwog o’r ail ganrif ar bymtheg, Stephen Hughes, gan raddio am yr eildro yn 2003.
Trodd ei sylw wedyn, eto dan gyfarwyddyd Dr. Edwards, at astudiaeth fwy uchelgeisiol o fywyd a gwaith John Thomas, Rhaeadr Gwy (1739-1804?). Pregethwr teithiol a gweinidog oedd John Thomas a ddaeth dan ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd, ac ef yw awdur Rhad Ras, un o’r hunangofiannau cyntaf yn y Gymraeg. Mae’r traethawd PhD yn waith swmpus a darllenadwy sy’n bwrw goleuni newydd ar un o ffigurau crefyddol mwyaf diddorol y cyfnod.
Er mai yma yng Nghymru y mae ei chalon, ymadawodd Joan Hughes â Sir Benfro ym 1946 er mwyn dilyn gyrfa fel athrawes mewn ysgolion yn ne-ddwyrain Lloegr. Daeth yn brifathrawes yn Bedford cyn ymddeol ar drothwy ei thrigain oed. Mae hi’n weithgar gyda Chymdeithas Gymraeg Bedford a Chlwb y Cymry yn Llundain, ac yn aelod ffyddlon o Gymdeithas y Cymmrodorion sy’n cwrdd yn rheolaidd yn y ddinas.
Mae ei champ yn fwy rhyfeddol fyth o ystyried ei phellter o Aberystwyth. Fel myfyriwr israddedig byddai’n teithio yma’n rheolaidd ar benwythnosau er mwyn mynychu’r cyfarfodydd dysgu, ac felly hefyd fel myfyriwr ymchwil er mwyn manteisio ar adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol a thrafod ei gwaith.
Meddai Dr. Edwards: “Bu’n bleser ei dysgu a’i chyfarwyddo ac mae ei hymroddiad yn esiampl i fyfyrwyr chwarter ei hoedran. Dylai fod yn ysbrydoliaeth i unrhyw un, beth bynnag fo’i oedran, sy’n ystyried mentro i fyd addysg gydol oes.”