Rheolwr ynni
David Oldham a naddio coed yn ei ddwylo. Mae'r Brifysgol yn ystyried naddion coed fel ffynhonnell amgen o ynni.
07 Gorffennaf 2008
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Rheolwr Ynni. Mae David Oldham, sydd yn beiriannydd mecanyddol ac yn aelod o Sefydliad Y Peiriannwyr Mecanyddol yn ymuno â'r Brifysgol o Brifysgol Gorllewin Lloegr lle roedd mewn swydd debyg.
Elfen bwysig o'r swydd newydd hon yw gwneud defnydd mwy effeithiol o drydan, nwy a dŵr er mwyn lleihau ôl troed carbon y Brifysgol.
Yn wreiddiol o Benbedw, dechreuodd David ar ei yrfa broffesiynol gyda British Nuclear Fuel Limited yn Selafield. Yn ystod ei 13 blynedd yno bu’n gweithio mewn ymchwil a datblygu ac ar THORP, yr uned ailbrosesu niwclear.
Yn ddiweddarach derbyniodd radd MSc mewn Ynni a’r Amgylchedd o Brifysgol Cranfield a bu hefyd yn gweithio fel Rheolwr Ynni ym Mhrifysgol Southampton.
Wrth siarad am ei benodiad disgrifiodd David ei hun fel “gofalwr ynni”. Dywedodd:
“Wrth i gostau ynni godi mae rhaid i sefydliadau edrych ar ffyrdd o leihau’r defnydd ohono. Ar yr un llaw mae agweddau gweithredol sydd yn cynnwys gosod atebion technolegol megis boeleri mwy effeithiol, sustemau goleuo sydd yn diffodd yn awtomatig, sustemau rheoli ynni, a ffynonellau amgen o ynni megis biomas. Ar y llaw arall mae’r angen i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg staff a myfyrwyr o’r angen i cynilo ynni.”
Mae David, sydd yn feiciwr brwd, yn gweithio i Adran Ystadau’r Coleg ym Mhlas Gogerddan. Un o’i brosiectau cyntaf fydd goruchwylio’r gwaith o osod offer rheoli goleuadau ar gampws Penglais. Mae’r Brifysgol yn buddsoddi bron i £20,000 mewn sustem newydd sydd yn diffodd y golau mewn ardaloedd sydd ddim yn cael eu defnyddio. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd Gorffennaf.
Yn ystod y 6 mis a aeth heibio buddsoddodd y Brifysgol £170,000 mewn mesuryddion trydan, nwy a dŵr sydd yn galluogi staff i fonitro defnydd dydd i ddydd. Mae’r sustem newydd yn ei gwneud hi’n bosibl i adnabod defnydd anghyffredin yn llawer cynt yn ogystal â tueddiadau cyffredinol.
Y Gynghrair Werdd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o’r Prifysgolion sydd wedi dringo fwyaf yng Nghyngrair Werdd Pobl a’r Blaned a gyhoeddwyd yn y Times Higher Education yr wythnos ddiwethaf (3 Gorff 08). O safle 97 y flwyddyn diwethaf dringodd Aberystwyth 44 safle i fod yn 53ydd.
Yn ystod yr 8 mis diwethaf mae’r Brifysgol wedi cymryd camau sylweddol er mwyn gwella ailgylchu. Cafodd cynllun bagiau lelog ei gyflwyno’n llwyddiannus iawn i neuaddau preswyl myfyrwyr a papur ailgylchu yn unig sydd yn cael ei ddefnyddio mewn llungopiwyr cyhoeddus y Brifysgol.
Buddsoddwyd bron i £300,000 ar ddechrau’r flwyddyn academaidd 07/8 mewn cyfrifiaduron a llungopiwyr newydd sydd yn defnyddio llai o drydan ac hyd at ½ miliwn tudalen o bapur yn llai bob blwyddyn.
Yn Rhagfyr 2007 gosodwyd peiriant newydd gwneud compost ar gampws Penglais. Ar hyn o bryd mae gwastraff bwyd o Ganolfan y Celfyddydau, Undeb y Myfyrwyr a Neuadd Pantycelyn yn cael ei brosesu yn y peiriant sydd â’r gallu i gymryd 1.2 tunnell o wastraff bwyd bob wythnos.
Ym mis Chwefror cafodd pwll nofio’r Brifysgol ei agor ar ei newydd wedd. Yn ystod y cynllun, a gostiodd £400,000, gosodwyd offer arbed ynni fydd yn golygu 50 tunnell yn llai o allyriadau carbon bob blwyddyn.