Cancr y prostad

Dr Reyer Zwiggelaar (dde) o Adran Cyfrifiadureg a Oncomorph Analysis Ltd, a David Neill o See3D

Dr Reyer Zwiggelaar (dde) o Adran Cyfrifiadureg a Oncomorph Analysis Ltd, a David Neill o See3D

02 Gorffennaf 2008

Dyfarnwyd cytundeb sylweddol i'r arbenigwyr delweddu See3D, cwmni deillio o Brifysgol Aberystwyth, er mwyn datblygu modelau cyfrifiadurol soffistigedig a fydd yn cynorthwyo doctoriaid i wella diagnosis a thriniaeth cancr y prostad.

Bob blwyddyn mae dros 35,000 o ddynion yn cael diagnosis cancr y prostad yn y Deyrnas Gyfunol yn unig – ac mae tua 10,000 yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i’r ffurf yma o gancr. O ran gwellhad gorau po gyntaf y ceir diagnosis, ond yn aml mae’n anodd iawn canfod y cancr yn gynnar, yn rhannol oherwydd ei union leoliad.

Bydd prosiect delweddu See3D, a gomisiynwyd gan Oncomorth Analysis Limited, cwmni delweddu meddygol a sefydlwyd gan Brifysgol Aberystwyth, a Exomedica Ltd, yn mynd ati i adnabod ardaloedd canseraidd yn y prostad nad oes modd i ddoctoriaid eu gweld ar hyn o bryd, drwy brosesu data rhifol cyflym. Bydd y wybodaeth yn cynorthwyo doctoriaid wneud diagnosis a thrin y cancr.

Mae gan ddoctoriaid dri dewis er mwyn trin cancr y prostad unwaith fod diagnosis wedi ei wneud: tynnu’r prostad, cemotherapi neu radioleg, neu, os yw’r cancr wedi tyfu yn rhy bell, “aros a gweld”.  Bydd y feddalwedd ddelweddu gaiff ei datblygu yn ystod prosiect Oncomorph Analysis yn galluogi doctoriaid i astudio datblygiad y cancr, a thrwy hynny ddewis y driniaeth addas.

Mae Dr Reyer Zwiggelaar yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, yn Brif Swyddog Gwyddonol gyda Oncomorphy Analysis – ac yn arwain y prosiect gyda tîm See3D. Dywedodd: “Unwaith y bydd y feddalwedd yma wedi ei datblygu bydd yn unigryw. Yn sgil cydweithio gyda ysbytai yn Norwich ac Abertawe rydym yn gwybod fod ein rhaglen ddadansoddi meddalwedd a delweddu yn mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gwaith pwysig mae doctoriaid yn ei wneud yn y frwydr yn erbyn cancr, ac yn eu galluogi i adnabod y cancr yn gynharach a gwneud gwella yn fwy tebygol.” 

Dywedodd Dr.  Mark Fisher, Cadeirydd Oncomorph Analysis, “Rydym yn fodlon iawn o fod yn gweithio gyda See3D a’r tîm profiadol o beirianwyr meddalwedd sydd ganddynt. Bydd y gwaith o ddatblygu’r cynnyrch gyda chymorth See3D yn arwain at greu cyfarpar gwirioneddol ddefnyddiol ar gyfer gweithgynhyrchwyr offer meddygol yn ogystal â’r bobl fydd yn ei ddefnyddio y pen draw, y doctoriaid.” 

Dywedodd David Neill, Cyfarwyddwr See3D: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Oncomorph Analysis am y cyllid hwn. Mae’n ein galluogi i chwarae rhan bwysig yn y frwydr i daclo cancr y prostad, salwch sydd yn llad nifer fawr o ddynion. Gall ein offer modelu cyfrifiadurol blaengar wneud cyfraniad pwysig i’r sector gofal iechyd, yn ogystal ag ynni adnewyddadwy, treftadaeth ac adeiladau, sectorau eraill yr ydym yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd.”

Cwmni all-droi o Brifysgol Aberystwyth yw See3D. Mae wedi ei leoli yn Nghanolfan Ddelweddu £10m y Brifysgol ac y darparu gwasanaethau realiti rhithwir a meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer y sector breifat a chyhoeddus. Derbyniodd y Ganolfan Ddelweddu gyllid oddi wrth Rhaglen Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd rwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ceir mwy o wybodaeth am See3D, cynnyrch a gwasanaethau ar y wefan: www.see3d.co.uk.