Agor pwll
Y Cyfarwyddwr Cynllunio Mr Brian Foster (canol) yn agor y pwll ar ei newydd wedd. Ar y dde mae Mr Frank Rowe, Cyfarwyddwr y Ganolfan ac ar y chwith mae Mr Jeff Saycell, Rheolwr Adnoddau a Masnach.
11 Chwefror 2008
Agor pwll nofio'r Brifysgol ar ei newydd wedd
Mae pwll nofio'r Brifysgol, sydd newydd gael ei adnewyddu, wedi ei ail agor yn swyddogol gan un o’i nofwyr mwyaf triw, sef y Cyfarwyddwr Cynllunio Mr Brian Foster.
Gosodwyd wyneb newydd ar y pwll nofio 25 llath a adeiladwyd dros 60 mlynedd yn ôl, ac mae sustemau awyru a gwresogi newydd, a ffenestri gwydr dwbl newydd yn golygu fod awyrgylch nofio’r pwll wedi gwella a’r gost o’i gynnal wedi lleihau’n sylweddol.
Mae offer monitro sydd yn ei gwneud hi’n bosibl i fesur arbediadau ynni yn fanwl wedi eu gosod fel rhan o’r cynllun £400,000. O ganlyniad mae disgwyl i allyriadau carbon deuocsid y pwll ar ei newydd wedd fod o leiaf 50 tunnell y flwyddyn yn is.
Yn yr agoriad ar y 31ain o Ionawr diolchodd Brian Foster i staff y Ganolfan Chwaraeon am y gwasanaeth maent yn ei gynnig a thalodd deyrnged i’r rhai fu’n gyfrifol am y gwaith adeiladu gwreiddiol yn y 1940.
“Fel un sydd wedi defnyddio’r pwll hwn yn gyson dros gyfnod o 40 mlynedd gallaf leisio’r rhyddhad a deimlais pan gafodd ei ail agor. Mae safon y gwaith a’r ffaith iddo gael ei gwblhau ar amser wedi creu argraff ar bawb. Mae’n deyrnged i grefftwyr y cyfnod fod y pwll wedi goroesi cystal o ystyried yr anawsterau a wynebwyd gan byllau nofio llawer mwy diweddar”, dywedodd.
Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn ymroddedig i wella mwynhad defnyddwyr drwy raglen o welliannau gyson. Ar hyn o bryd mae caffe bach yn cael ei ddatblygu er mwyn i gwsmeriaid allu ymlacio ar ôl sesiwn ymarfer. Yn ogystal mae cynlluniau ar y gweill i osod offer newydd yn y gampfa ac ehangu’r dosbarthiadau sbin, felly cadwch lygad ar y datblygiadau!
Mae’r pwll ar agor i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac i aelodau Clwb 300. Am fanylion pellach am aelodaeth ac oriau agor y pwll cysylltwch â’r Ganolfan Chwaraeon ar 01970 621500 neu e-bost sports@aber.ac.uk.
Arwyddwyd y cytundeb gwreiddiol i adeiladu’r pwll yn 1939, a’r pris a gytunwyd oedd £17,000. Roedd y swm hwn yn cynnwys £10,000 gan y ‘National Fitness Council’ a cwblhawyd y gwaith adeiladu yn 1945.
Cafodd y penderfyniad i adeiladu pwll nofio ei wneud yn dilyn arolwg o weithgaredd myfyrwyr mewn chwaraeon yn 1937 gan Gydbwyllgor y Coleg a’r Myfyrwyr. Datblygwyd yr ardal lle mae’r cae chwarae pob tywydd, gyferbyn â’r Neuadd Chwaraeon, ar yr un pryd ar gyfer cae hoci a trac rhedeg.