Bywyd ar y Blaned Mawrth?
Dr Dave Barnes a'r ExoMars Rover yn Aberystwyth
25 Chwefror 2008
Bywyd ar y Blaned Mawrth?
Roedd Rhagfyr 25 2003 i fod yn benllanw gorfoleddus i'r cyrch Prydeinig i'r blaned Mawrth: hwn oedd y dyddiad yr oedd disgwyl i Beagle 2 lanio ar y blaned goch. Ond yn y pen draw, daeth y cyrch i ben mewn rhwystredigaeth a siom, pan gollwyd pob cysylltiad â’r llong ofod.
Roedd gwyddonwyr cyfrifiadurol o Brifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan bwysig yn y fenter, yn cynllunio ac yn adeiladu’r fraich robotig a fyddai’n allweddol wrth gasglu data i’w ddadansoddi.
Dr Dave Barnes oedd arweinydd y tîm yn Aberystwyth oedd wedi gweithio ers blynyddoedd ar y prosiect. “Nid dyna’r diwrnod ‘Dolig gorau i mi ei gael,” cofia Dr Barnes, ond er bod methiant y Beagle yn ergyd drom i bawb, doedd y blynyddoedd o baratoi a gwaith caled ddim yn ofer.
Yr etifeddiaeth a adawodd Beagle 2 oedd yr arbenigedd oedd wedi’i adeiladu dros gyfnod y prosiect, ac mae llawer o’i nodweddion wedi’u cynnwys yn y cyrch Ewropeaidd i’r blaned Mawrth, ExoMars 2013, sy’n bwriadu anfon cerbyd crwydrol i’r blaned yn 2013 i gasglu data a allai helpu gwyddonwyr i ateb y cwestiwn oesol: Oes bywyd i gael ar y blaned Mawrth?
Prosiect Aurora Flagship yw ExoMars sy’n cynnwys 14 o genhedloedd, a’i nod yw diffinio nodweddion amgylchedd biolegol Mawrth er mwyn paratoi ar gyfer cyrchoedd robotig ac yn y pen draw fforio dynol. Bydd data o’r cyrch hefyd yn darparu gwybodaeth allweddol ar gyfer chwiliadau ehangach am fywyd ar blanedau eraill.
Mae Dr Barnes a’i dîm bellach yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o baratoi’r cerbyd crwydrol, ac mae braich robotig Beagle 2, oedd yn cynnwys pum cymal symudol, yn esblygu i greu braich lawer fwy soffistigedig fydd yn gallu cyflawni tasgau mwy cymhleth o lawer.
Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu dull o gasglu data fydd yn lleihau’r amser y bydd yn cymryd i’r fraich osod teimlyddion ac offerynnau gwyddonol ar greigiau’r blaned. O dan system Beagle 2, roedd yr holl orchmynion ar gyfer symud y fraich yn gorfod dod yn uniongyrchol o’r ddaear, ond mae’r Cyngor Adnoddau Gwyddoniaeth a Thechnolegau (STFC) nawr yn ariannu ymchwil fydd yn caniatáu i’r fraich weithio ar y cyd â chamerâu ar y cerbyd gan gasglu samplau yn annibynnol.
Yn eu labordy yn Aberystwyth, mae gan Dr Barnes a’r tîm fodel o’r cerbyd crwydrol wedi’i osod mewn tirlun sy’n ymdebygu i’r blaned Mawrth, ar gymysgedd o dywod cwarts ac olifin sy’n efelychu nodweddion geoffisegol pridd y blaned. Yma maen nhw’n gweithio ar eu cyfrifiadau a’u hefelychiadau cyfrifiadurol yn barod ar gyfer cam nesaf y cyrch, fydd yn gweld yr elfennau gwahanol yn dod ynghyd.
Mae’r tîm yn gweithio i amserlen dyn – rhaid lansio’r llong ofod yn 2013 a bydd yn glanio ar y blaned tua diwedd 2014. Yna bydd cyfnod dwys o chwe mis yn casglu data o arwyneb y blaned a hefyd oddi tan yr wyneb drwy ddrilio i lawr 2 fetr i gasglu samplau.
Mae Dr Barnes yn argyhoeddedig na fyddai cyrch ExoMars yn edrych mor addawol oni bai am y gwaith a wnaed ar Beagle 2: “Mae’r gwaith a wnaed ar gyfer Beagle 2 yn sicr wedi bod o gymorth gyda’r ymchwil ar gyfer ExoMars, ac er bod ffordd bell i fynd, mae pawb yn canolbwyntio ar sicrhau cyrch llwyddiannus yn 2013.”