Gwreiddiau Celtaidd Ewrop

Dr Alexander Falilevev a Yr Athro Patrick Simms-Williams

Dr Alexander Falilevev a Yr Athro Patrick Simms-Williams

01 Chwefror 2008

Gwreiddiau Celtaidd Ewrop
Mae gwreiddiau'r iaith Gymraeg yn estyn yn ôl yn bell i niwl y gorffennol Celtaidd, a nawr mae grŵp o ysgolheigion o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dan arweiniad yr Athro Patrick Sims-Williams wedi derbyn cyllid fydd yn caniatáu iddynt chwilio am y dystiolaeth gynharaf o'r iaith Geltaidd y datblygodd y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill ohoni.


Dyma’r trydydd mewn cyfres o grantiau hael a wnaed gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i ysgolheigion yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bydd y dyfarniad o £390,889 yn galluogi i’r grŵp barhau â’u hastudiaethau ledled Ewrop.

Fe wyddom am fodolaeth yr iaith Geltaidd hynafol o arysgrifau mewn ardaloedd o’r Cyfandir lle y datblygodd systemau ysgrifennu cynnar, gan ddechrau yng ngogledd yr Eidal a’r Swistir tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, ac yna yn Sbaen a Ffrainc. Fodd bynnag mae’r grŵp wedi defnyddio enwau llefydd hynafol mewn ffynonellau megis Daearyddiaeth Ptolemy i brofi fod yr iaith Geltaidd yn cael ei siarad dros ardal ehangach o lawer.

Yn fwyaf diweddar maent wedi bod yn chwilio am enwau personol Celtaidd mewn arysgrifau Rhufeinig. Yn 2007 cyhoeddodd yr Athro Sims-Williams gasgliad helaeth o’r rhain ar y cyd â Dr Marilynne Raybould (sydd â gradd mewn Lladin o Brifysgol Aberystwyth), a chyhoeddodd Dr Alexander Falileyev, ysgolor o St Petersburg sy’n gweithio yn yr adran, astudiaeth fanwl o enwau Celtaidd yn rhanbarth Rhufeinig Dacia, sef ardal Rwmania fodern.


Croesawodd yr Athro Sims-Williams y grant newydd, fydd yn caniatáu i Dr Falileyev wneud yr astudiaeth lawn gyntaf o’r dystiolaeth i’r de o Rwmania ac mor bell i’r dwyrain â Galatia yng ngwlad Twrci. Esboniodd: ‘Rydym ni’n gwybod fod yr ardaloedd hyn wedi’u coloneiddio o’r drydedd ganrif cyn Crist ymlaen gan bobl oedd yn siarad ieithoedd Celtaidd. Yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig cafwyd mewnfudiad pellach o bobl ag enwau Celtaidd, gan gynnwys milwyr a masnachwyr. Yn ein prosiect newydd byddwn ni’n datblygu dulliau gwell o adnabod yr enwau hyn.’

Ychwanegodd yr Athro Sims-Williams ei fod ‘yn dod i’r amlwg fod yr iaith Geltaidd yn un o brif ieithoedd Ewrop hynafol ynghyd â Groeg a Lladin, ac mae hwn yn safbwynt cyffrous i bobl sy’n tueddu i feddwl am ieithoedd Celtaidd fel ieithoedd lleiafrifol. Mae’r rhaglen ymchwil hon yn cydweddu â’r ffaith fod myfyrwyr bellach yn dod o bob rhan o’r byd i Aberystwyth er mwyn astudio’r Celtiaid gyda ni. Mae’n ymddangos bod gan y rhan fwyaf o wledydd yr UE orffennol Celtaidd!’.

Pennawd y prosiect a gyllidwyd gan yr AHRC yw ‘Gaulish morphology with particular reference to areas south and east of the Danube’.

Yr Athro Patrick Sims-Williams
Athro mewn Astudiaethau Celtaidd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth yw Patrick Sims-Williams, MA (CAntab.), PhD (Birmingham), FBA. Ei ddiddordebau academaidd yw Iaith a llenyddiaeth gynnar Cymru ac Iwerddon, ieitheg Geltaidd gymharol, hanes Prydain ac Iwerddon yn yr oesoedd canol cynnar. Yr Athro Sims-Williams yw golygydd Cambrian Medieval Celtic Studies.


Cyhoeddiadau diweddar:
Person-Switching in Celtic Panegyric: Figure or Fault?’, CSANA Year-Book, 3/4 (2005), 315-26.
Medieval Irish Literary Theory and Criticism: 1. Poetic Theory’, The Cambridge History of Literary Criticism, II, The Middle Ages, gol. Alastair Minnis & Ian Johnson (Cambridge: Cambridge University Press, 2005), tt. 291-301 & 754-58.
A Recension of Boniface’s Letter to Eadburg about the Monk of Wenlock’s Vision’, Latin Learning and English Lore, I, gol. Katherine O’Brien O’Keeffe & Andy Orchard (Toronto: University of Toronto Press, 2005), tt. 194-214.
New Approaches to Celtic Place-Names in Ptolemy’s Geography, gol. Javier de Hoz, Eugenio R. Luján, & Patrick Sims-Williams (Madrid: Ediciones Clásicas, 2005), 287tt.
The Iron House in Ireland, H. M. Chadwick Memorial Lectures, 16 (Cambridge, 2006), 31tt.
Ancient Celtic Place-Names in Europe and Asia Minor, Publications of the Philological Society, 39 (Oxford, 2006), xiii + 406tt., 69 o fapiau.
The Geography of Celtic Personal Names in the Latin Inscriptions of the Roman Empire (Aberystwyth: CMCS, 2007), iv + 210 tt. (gyda Marilynne E. Raybould)
A Corpus of Latin Inscriptions of the Roman Empire Containing Celtic Personal Names (Aberystwyth: CMCS, 2007), ix + 283 tt. (gyda Marilynne E. Raybould)
‘Common Celtic, Gallo-Brittonic and Insular Celtic’, Gaulois et Celtique Continental, gol. Pierre-Yves Lambert & Georges-Jean Pinault (Geneva: Droz, 2007), tt. 309-54.
Studies on Celtic Languages before the Year 1000 (Aberystwyth: CMCS, 2007), ix + 253 tt.

Adran y Gymreg
Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yw'r hynaf a'r fwyaf yng Nghymru. O'i dechreuad hyd heddiw gwnaeth ei haelodau (yn staff a myfyrwyr) gyfraniad pwysig i fywyd a diwylliant Cymru mewn meysydd megis ysgolheictod, llenyddiaeth, addysg, gwleidyddiaeth a darlledu. Yn Asesiad Ymchwil 2001 dyfarnwyd iddi radd 5*A, sef y radd uchaf un.

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (Arts and Humanities Research Council)
Bob blwyddyn bydd yr AHRC yn darparu tua £90 miliwn oddi wrth y Llywodraeth er mwyn cefnogi ymchwil ac astudiaethau ôl-raddedig yn y celfyddydau a’r dyniaethau, o archaeoleg a llenyddiaeth Saesneg i ddylunio a dawns. Mewn blwyddyn arferol mae’r AHRC yn rhannu tua 700 dyfarniad ymchwil a tua 1500 dyfarniad ôl-raddedig. Gwneir y dyfarniadau yn dilyn proses adolygu gan gymheiriaid er mwyn sicrhau taw dim ond ceisiadau o’r safon uchaf sydd yn cael eu cyllido. Mae chwarter o holl ymchwilwyr gweithredol yn y sector addysg uwch yn gweithio yn y celfyddydau a’r dyniaethau. Mae safon ac ystod yr ymchwil a gefnogir gan y buddsoddiad hwn yn arwain at fudd cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â chyfrannu at lwyddiant economaidd y Deyrnas Gyfunol.

Cynllun grantiau’r AHRC
http://www.ahrc.ac.uk/apply/research/research_grants.asp