Canolfan addysg athrawon newydd
Mae'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn yr Hen Goleg
09 Rhagfyr 2008
Cyhoeddi Canolfan Addysg Athrawon newydd i ogledd a chanolbarth Cymru
Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn dod at ei gilydd i ddarparu Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru, un o dair canolfan genedlaethol, yn weithredol o 2010 a bydd yn hyfforddi athrawon cynradd ac uwchradd.
Caiff y ganolfan newydd ei rheoli gan y ddau sefydliad ar y cyd a bydd yn parhau i weithio a datblygu partneriaethau gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y rhanbarthau. Mae'r cydweithio hwn yn digwydd yng nghyd-destun partneriaeth strategol ehangach rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor mewn perthynas ag Ymchwil a Menter.
Mae'r tair Canolfan Addysg Athrawon yng Nghymru yn ganlyniad polisi’r Llywodraeth sydd wedi annog ail-gyflunio ar draws y sector prifysgolion ac yn ymateb i ostyngiad sylweddol yn y lleoedd hyfforddi athrawon sydd ar gael.
O 2010 bydd Bangor yn cynnig cyrsiau ar lefel gynradd, y cwrs BA tair blynedd mewn Addysg Gynradd (Statws Athro Cymwysedig) a’r cwrs blwyddyn Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Gynradd.
Bydd Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant i'r sector Uwchradd mewn Saesneg a Drama, Daearyddiaeth, Hanes, TGCh, Ieithoedd Modern, Gwyddoniaeth a Chymraeg.
Bydd Bangor yn cynnig cyrsiau TAR Uwchradd mewn Celf, Mathemateg, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Gwyddoniaeth a Chymraeg. Hefyd bydd Bangor yn parhau i gynnig y cwrs BSc Uwchradd (SAC) mewn Dylunio a Thechnoleg. Bydd yr holl gyrsiau a gynigir yn y ddau sefydliad yn dal i fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy gyfrwng y Saesneg.
Yn ogystal â'r newidiadau yn y ddarpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon, mae'r ddwy brifysgol yn datblygu cyrsiau newydd a chyffrous a fydd yn denu darpar fyfyrwyr.
O 2009 ymlaen bydd Aberystwyth yn cynnig gradd newydd mewn Astudiaethau Plentyndod ac mae cyrsiau eraill mewn addysg, rheolaeth a sgiliau ar y gweill ar gyfer 2010.
Mae'r Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor yn parhau i ddatblygu'r radd BA boblogaidd mewn Astudiaethau Plentyndod, y Radd Sylfaen mewn Plentyndod Cynnar a Chefnogaeth Dysgu a’r radd BSc mewn Dylunio Nwyddau ynghyd â nifer o raglenni Datblygu Proffesiynol Parhaus er mwyn cwrdd ag anghenion athrawon wrth eu gwaith.