Seicoleg
Dr Kathryn Bullen, Pennaeth Seicoleg
01 Awst 2008
Mae'r adran newydd yn cynnig saith gradd gyfun ar gyfer Medi 2008; Seicoleg a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Gwleidyddiaeth, Marchnata, Troseddeg, Geneteg a Iechyd Dynol, a Technoleg Gwybodaeth.
Mae bwriad i gyflwyno gradd sengl mewn Seicoleg ar gyfer 2009/2010 yn ogystal â thair gradd gyfun ychwanegol mewn Addysg, Economeg a Hanes.
Dywedodd Pennaeth yr Adran, Dr Kathryn Bullen:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, un sydd yn adlewyrchu poblogrwydd cynyddol Seicoleg ymysg israddedigion. Mae cyrsiau seicoleg Aberystwyth yn adeiladu ar gryfderau adrannau academaidd a rhaglenni gradd sydd wedi ennill eu plwyf, ac wedi eu hintegreiddio gyda nhw. Mae ein graddau arloesol yn elwa o'r cyfuniad o bynciau sydd eisoes wedi eu sefydlu a chyfraniad deinamig seicoleg.
“Pa bynnag gwrs mae myfyriwr yn ei ddewis, mae cyfraniad seicoleg i bob agwedd o fywyd pob dydd yn anferthol. Gwerthfawrogir graddedigion seicoleg am eu hadnabyddiaeth o ymddygiad dynol a’u sgiliau trosglwyddadwy megis y gallu i gynnig dadansoddiad gwrthrychol a beirniadol ynghyd â sgiliau ymchwil gwerthfawr.
“Rydym yn byw mewn byd cystadleuol ac mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd yn gallu gweithio fel aelod o dîm ac fel unigolyn creadigol. Canolbwynt ein cynlluniau graddau seicoleg yw datblygu potensial pob myfyriwr fel eu bod yn tyfu i fod yn raddedigion sydd yn meddu ar y sgiliau a’r nodweddion y mae marchnad waith yr 21ain yn galw amdano,” ychwanegodd.
Maes ymchwil Dr Bullen yw seicoleg iechyd a meddyginiaeth ac yn arbennig mathau o gancr sydd yn effeithio ar ddynion yn unig. Bu’n gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ers nifer o flynyddoedd, mae’n Is-gadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil GIC De-Orllewin Cymru ac yn ben-seicolegydd i Rwydwaith Cancr De Orllewin Cymru.
Yn ymuno â Dr Bullen mae Dr Rachel Raham, sydd â ddiddordebau ymchwil mewn cymhelliant a newid ymddygiad mewn seicoleg iechyd ac ymarfer corff, Dr I-Chant Chiang o Brifysgol Stamford sydd â diddordebau ymchwil mewn seicoieithyddiaeth a sut mae iaith yn dylanwadu ar y meddwl, a Dr Gareth Hall sydd yn gweithio ym maes hunanieth gymdeithasol prosesau rhwng grwpiau.
Blwyddyn academaidd 2007/2008 oedd y gyntaf i Brifysgol Aberystwyth gynnig cynlluniau gradd mewn seicoleg. O ganlyniad i boblogrwydd y pwnc a’r diddordeb a ddangoswyd yn y graddau seicoleg newydd, mae datblygiadau wedi bod yn gyflym.
Ceir manylion pellach am yr adran, sydd wedi ymgartrefu yn adeilad Llandinam ar gampws Penglais, a’r cynlluniau gradd ar y wefan http://www.aber.ac.uk/en/psychology/.