Cadair UNESCO
Yr Athro Colin McInnes
29 Tachwedd 2007
Dydd Iau 29 Tachwedd 2007
UNESCO yn dyfarnu Cadair HIV/AIDS, Addysg a Diogelwch i Brifysgol Aberystwyth
Dyfarnwyd Cadair UNESCO mewn HIV/AIDS, Addysg a Diogelwch i'r Athro Colin McInnes, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth.
Cafodd y Gadair ei chyhoeddi'n ffurfiol mewn digwyddiad UNESCO i godi ymwybyddiaeth am HIV/AIDS yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, dydd Iau 29 Tachwedd 2007. Dyma’r Gadair UNESCO gyntaf yng Nghymru a’r wythfed yn unig ym Mhrydain.
Mae’r Athro McInnes wedi croesawu’r datblygiad:
“Mae derbyn y Gadair UNESCO gyntaf yng Nghymru yn fraint fawr. Mae’r Gadair yn gefnogaeth i’r gwaith arloesol sydd yn cael ei wneud yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar wleidyddiaeth rhyngwladol clefydau ac yn benodol HIV/AIDS. Mae hefyd yn her i ddeall canlyniadau cymdeithasol HIV/AIDS a sut y dylen ni ymateb.”
Gwahoddwyd Prifysgolion Cymru i wneud cynigion am Gadeiriau gan Pwyllgor Cymru UNESCO a fyddai yn ymateb i flaenoriaethau’r Pwyllgor a meini prawf UNESCO. Gwnaeth llwyddiannau a rhagoriaeth gwaith Aberystwyth ar HIV/AIDS a diogelwch gryn argraff ar y Pwyllgor a rhoddwyd cefnogaeth unfrydol i’r cynnig. Cafodd y cynnig ei gyflwyno i bencadlys UNESCO ym Mharis a gwnaeth Koichura Matsuura, Cyfarwyddwr Cyffredinol UNESCO gyhoeddiad yn ystod cynhadledd UNESCO UK yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, y byddai Cadair UNESCO yn dod i Gymru.
Dywedodd yr Athro Michael Scott, Cadeirydd Pwyllgor UNESCO Cymru:
“Cwta ddwy flynedd sydd ers sefydlu Pwyllgor UNESCO Cymru ac eisoes mae wedi sefydlu ei hunaniaeth ei hun ac yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at hyrwyddo gwaith UNESCO yn y Deyrnas Gyfunol.
“Mae dyfarnu Cadair UNESCO mewn HIV/AIDS, Addysg a Diogelwch yn hwb anferthol i enw da Cymru yn rhyngwladol ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith pwysig mae’r Athro McInnes yn ei wneud er mwyn sicrhau fod HIV/AIDS yn rhan o agenda diogelwch rhyngwladol.
“Yn ogystal mae’n cyd-fynd gyda dau brosiect UNESCO Cymru i ehangu hyfforddiant ar gyfer gofalwyr iechyd yn Tansania a thaclo ymddygiad peryglus mewn perthynas â HIV/AIDS yn Lesotho,” ychwanegodd.
Mae’r Athro McInnes yn Gyfarwyddwr Canolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol sydd wedi ei lleoli yn Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. Ei farn ef yw na ddylid ystyried HIV/AIDS o safbwynt meddygol yn unig, ond yn nhermau oblygiadau i ddiogelwch a’r effeithiau cymdeithasol ar deuluoedd, cymunedau a’r wladwriaeth yn ehangach.
Yn dilyn dyfarnu Cadair UNESCO mewn HIV/AIDS, Addysg a Diogelwch, mae’r Ganolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol yn adeiladu rhwydwaith fydd yn hwyluso cyfnewid academaidd ac ymchwil gyda prifysgolion yn Ne Affrica a ddimensiynau dynol a diogelwch y pandemig hwn.
UNESCO
Sefydlwyd Pwyllgor UNESCO Cymru yn 2005 er mwyn cefnogi gwaith Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Gyfunol a rhoi persbectif a mewnbwn Cymreig i raglenni gwaith UNESCO.
Ceir manylion pellach am UNESCO yma http://www.unesco.org.uk/UNESCO1.htm, ac am Gadeiriau UNESCO yma http://www.unesco.org.uk/UNESCO_Chairs1.htm
Yr Athro Colin McInnes
Mae Colin McInnes yn Athro Gwleidyddiaeth Rhyngwladol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol. Ymunodd â’r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn 1986. Ei ddiddordeb yn y dechrau oedd astudiaethau diogelwch. Erbyn hyn mae astudio’r berthynas rhwng iechyd a diogelwch, ac yng nghyd-destun HIV/AIDS yn benodol. Bu’n Ymgynghorydd Academaidd i Raglen Fydol Ymddiriedolaeth Nuffield ar Iechyd, Polisi Tramor a Diogelwch, ac mae wedi derbyn grantiau sylweddol ar faterion yn ymwneud â iechyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield, yr ESRC a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae wedi darlithio’n eang ar faterion yn ymwneud â iechyd a diogelwch yn y Deyrnas Gyfunol a thramor, yn ogystal â chynghori llywodraethau, gwleidyddion a swyddogion yn rhyngwladol.
Ei ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd yw HIV/AIDS, diogelwch a diogelwch dynnol; Diogelwch a chlefydon heintus; Tobaco; Iechyd a polisi tramor.
Y Ganolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol
Sefydlwyd y Ganolfan o fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn 2003, wedi i’r adran ddenu cyllid sylweddol ar gyfer rhaglen ymchwil bellgyrhaeddol ar y berthynas rhwng iechyd a gwleidyddiaeth rhyngwladol. Yn ogystal mae’r Ganolfan wedi denu grantiau ymchwil gan Ymddiriedolaeth Nuffield a Rhaglen Heriau Diogelwch Newydd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar y cysylltiadau rhwng iechyd, diogelwch a pholisi tramor. Mae’r Ganolfan yn gweithio ar y rhagdybiaeth fod rhesymau cryf dros gysylltu iechyd gyda chysylltiadau rhyngwladol, ac yn ystyried gwleidyddiaeth iechyd byd-eang yn nhermau agenda ehangach Gwleidyddiaeth Rhyngwladol am y tro cyntaf. Mae gwaith arall y Ganolfan yn cwmpasu oblygiadau neo-ryddfrydiaeth i iechyd cyhoeddus a chydraddoldeb mewn iechyd, ymchwil sydd yn parhau ar fuddsoddiadau iechyd tramor y Deyrnas Gyfunol, ac astudiaeth o iechyd fel mater sydd yn dod i’r amlwg fwyfwy mewn polisi tramor. Am fanylion pellach am y Ganolfan cysyllter â Owain Williams (odw@aber.ac.uk neu 01970 621799).
Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
Sefydlwyr yr Adran, y gyntaf o’i bath mewn prifysgol yn y byd, yn 1919. Ers hynny mae wedi datblygu i fod yn ganolfan o ragoriaeth rhyngwladol mewn ymchwil a dysgu.
Cafodd rhagoriaeth ymchwil yr Adran ei chydnabod yn yr Ymarferiad Asesu Ymchwil diweddaraf yn 2001 pan dderbyniodd radd 5*. Golyga hyn ei bod yn un o’r adrannau mwyaf blaengar ym Mhrydai ym maes cysylltiadau rhyngwladol. Yn yr un modd aseswyd safon yn dysgu yn yr ymarferiad diweddaraf i’w gynnal gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch a chafwyd ei fod yn rhagori – yr adran wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i dderbyn y radd uchaf posib.
Ar hyn o bryd mae myfyrwyr o 41 gwlad yn yr Adran. Mae dros 30 aelod staff academaidd, dros 500 o fyfyrwyr israddedig a ysgol raddedig o 120 yn ei gwneud yn un o’r adrannau cysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn y byd.