'Byw yng Nghanol Newid – 2'
27 Tachwedd 2007
Darlith Flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig 2007
Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth
Byw yng Nghanol Newid – 2
Jason Chess, Cyfreithiwr a Phartner yng nghwmni cyfreithiol Wiggan LLP, sef cwmni sy'n arbenigo yn y cyfryngau a thechnoleg, fydd yn traddodi Darlith Flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig 2007 ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 30 Tachwedd.
Yn ei ddarlith, ‘Living in the Midst of Change – 2', bydd Mr Chess yn ystyried materion rheoleiddio darlledu yng Nghymru, sut y bydd diffodd y signal analog yn effeithio ar raglennu rhanbarthol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac a ddylid datganoli polisïau darlledu a’r gyllideb i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mewn cyflwyniad i’w ddarlith, ysgrifennodd Mr Chess:
“Byddwn yn ystyried ffeithiau’r “cydgyfeirio digidol” yn gyntaf, hynny yw lle y mae sawl cyfrwng digidol chwim ar gael i bawb. Ceir esboniad ar ddatblygiadau yn llwyfannau digidol presennol y cyfryngau, ac fe ystyriwn ddatblygiadau a sianelau dosbarthu yn y dyfodol. Edrychwn ar sut y bydd defnyddwyr y cyfryngau clyweledol yng Nghymru yn elwa, ac ar eu colled, yn ogystal â’r drefn statudol a chyfansoddiadol sydd ohoni sy’n mynnu bod darlledwyr yn gofalu am anghenion Cymru, yn y Saesneg a’r Gymraeg fel ei gilydd.”
“Byddwn yn pwyso a mesur ai da ynteu drwg o beth fydd diffodd y signal analog o safbwynt y ddarpariaeth o raglenni rhanbarthol yng Nghymru, ac a fydd defnyddwyr y cyfryngau clyweledol yng Nghymru ar eu hennill mewn ‘bydysawd’ a fydd yn hollol ddigidol.”
“I gloi, gofynnwn a oes angen datganoli grymoedd polisi darlledu a’r gyllideb i Gaerdydd neu a fyddai’n fuddiol inni gadw’r sefyllfa bresennol lle mai San Steffan sy’n deddfu yn y maes hwn. Sut y bydd y Gymraeg yn ymdopi a chystadlu am wylwyr heb ei signal analog, gyda 600 o sianeli eraill ar gael ar Sky, ac am ba hyd fydd rhaglenni o ddiddordeb i Gymru yn dal i gael eu gwneud yn Saesneg o gwbl, o ystyried y toriadau yng nghyllidebau’r BBC a’r pwysau masnachol ar ITV? A allai’r gyfraith ddefnyddio grym gorfodaeth i ddod o hyd i ateb diwylliannol priodol i wlad fechan yn nannedd yr angen di-ildio sydd ar y darparwyr i gystadlu mewn bydysawd anarchaidd o deledu fel cynnyrch ar-alw lle y bydd y gwylwyr hwythau hyd yn oed yn creu eu cynnyrch eu hun?"
Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar Gampws Penglais, ac mae’n dechrau am 7 o gloch yr hwyr.
Y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig
Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw cartref y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig. Fe’i sefydlwyd ym mis Ionawr 1999 i fod yn ganolbwynt i’r arbenigedd a’r gwaith yn yr Adran ar y gyfraith fel y mae’n gweithredu yng Nghymru yn ogystal ag ar ddatblygiadau cyffredinol yn y gyfraith sy’n berthnasol i Gymru.
Ms Ann Sherlock, Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, yw Cyfarwyddwraig y Ganolfan.
Un o brif amcanion y Ganolfan yw ystyried a oes safbwynt Cymreig penodol i gwestiynau cyfreithiol cyffredinol o fewn cyfundrefn gyfreithiol gyffredin Cymru a Lloegr, yn ogystal â sicrhau bod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu rhoi yng nghyd-destun ehangach datblygiadau gwelydd Prydain, Ewrop ac yn rhyngwladol. Nid mater sy’n effeithio ar Gymru yn unig mo datganoli: mae’n bwnc llosg yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain, rhanbarthau Lloegr ac mewn llawer rhan o Ewrop. Mae’r Ganolfan yn cydweithio â sefydliadau eraill ledled gwledydd Prydain a thu hwnt i ystyried datblygiadau cyfreithiol o fewn tiriogaethau datganoledig eraill drwy gynnal astudiaethau cymharol.
Datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â thwf trefn gyfreithiol fwy ‘Cymreig’ a ysgogodd sefydlu’r Ganolfan. Mae gwaith ar sut mae datganoli yn gweithio yn rhan fawr o waith presennol y Ganolfan o safbwynt y gyfraith gyhoeddus, sy’n ymwneud ag adeiladwaith a gweithredu’r Cynulliad ei hun, ac o safbwynt y gyfraith hawliau a’r polisi y mae’r Cynulliad yn eu datblygu. Serch hynny, mae’r gwaith yn mynd y tu hwnt i broses a gweithredu datganoli: ymhlith y prosiectau perthnasol eraill sy’n cael eu gwneud gan aelodau’r Ganolfan y mae gwaith ar hawliau dynol, rhyddid i wybodaeth, y Gymraeg, a chyfiawnder troseddol yng nghyd-destun Cymru. Drwy graffu ar y materion hyn yng nghyd-destun Cymru a thrwy astudiaethau cymharol, rydym yn gwella ein dealltwriaeth o’r meysydd cyffredinol ac yn hehangu yn hytrach na chulhau ein golwg ar y materion hynny.