S4C: Y Chwarter Canrif Cyntaf

S4C

S4C

02 Tachwedd 2007

Dydd Gwener 2 Tachwedd 2007
S4C: Y Chwarter Canrif Cyntaf
Bydd Prif Weithredwr S4C ynghyd â dau o'i rhagflaenwyr yn y swydd yn ymgynnull yn Aberystwyth 2-3 Tachwedd ar gyfer cynhadledd arbennig i nodi 25 mlynedd ers sefydlu Sianel Pedwar Cymru.

Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth a'r Llyfrgell Genedlaethol sy’n trefnu’r gynhadledd ryngwladol a fydd yn denu ffigurau blaenllaw o’r diwydiant yn ogystal ag academyddion o Gymru a thu hwnt.
 
Yn ei hanerchiad i gynadleddwyr, mae disgwyl i Iona Jones, a benodwyd yn Brif Weithredwr S4C yn 2005, ganolbwyntio ar yr heriau sy’n wynebu’r sianel mewn oes o ddarlledu digidol, aml-blatfform. Bydd ei rhagflaenwyr Huw Jones (Prif Weithredwr S4C 1994-2005) a Geraint Stanley Jones (Prif Weithredwr S4C 1986-1994) yn bwrw golwg yn ôl ar ddatblygiadau arwyddocaol yn ystod eu cyfnodau nhw wrth y llyw. 

Dyddiau cynnar y sianel gaiff sylw Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf S4C Euryn Ogwen Williams a fydd hefyd yn sôn am rai o’r penderfyniadau allweddol a wnaed yn y misoedd yn arwain at y darllediad cyntaf ar 1 Tachwedd 1982.

Yno hefyd bydd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru, Rhodri Glyn Thomas AC.
“Mae’n fraint bod y gynhadledd yma wedi llwyddo i ddenu cynifer o bobl sydd wedi arwain datblygiad S4C dros y chwarter canrif diwethaf,” meddai’r Athro Elan Closs Stephens o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, a fu’n gadeirydd Awdurdod S4C Authority o 1998-2006.

“Bydd y gynhadledd hon yn gofnod o gyfnod pwysig yn hanes darlledu yng Nghymru. Ein nod yw croniclo a chloriannu chwarter canrif cyntaf Sianel Pedwar Cymru. Byddwn hefyd yn ystyried y dimensiwn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar themau penodol fel datblygiad y sector annibynnol, polisi ieithyddol a chyfleoedd digidol.” 

Ymhlith y prif siaradwyr eraill mae Pennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru Keith Jones; Cyfarwyddwr Comisiynu S4C Rhian Gibson, a Rhys Evans, awdur cofiant y diweddar Gwynfor Evans wnaeth fygwth ymprydio hyd marwolaeth yn 1980 oni bai bod y llywodraeth yn sefydlu sianel deledu Gymraeg.