Prifysgol yn penodi Is-Lywydd newydd
Mrs Elizabeth France
31 Hydref 2007
Mrs Elizabeth France CBE BScEcon, Hon DSc, Hon DLitt, Hon D Laws, the Telecommunications and Energy Supply Ombudsman and previously the UK's first Information Commissioner, has been appointed a Vice-President of Aberystwyth University.
Cafodd Mrs France, a fu'n astudio Gwyddoniaeth Gwleidyddol yma yn Aberystwyth ac sydd yn Gymrawd y Brifysgol, ei phenodi mewn cyfarfod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 31 Hydref 2007, a bydd yn dechrau yn y swydd ar 1 Ionawr 2008.
Wedi graddio yn 1971 ymunodd Mrs France â’r Swyddfa Gartref fel Swyddog Gweinyddol dan Hyfforddiant. Bu’n gwasanaethau ym mhob un o brif feysydd busnes yr Adran gan gynnwys gweithio gyda awdurdodau lleol, y sustem gyfiawnder droseddol a’r sector breifat. Yn ogystal bu’n bennaeth Adran Gwasanaethau Cyflog a Gwybodaeth y Swyddfa Gartref yn Bootle. Yn 1994 cafodd ei phenodi’n Gomisiynydd Diogelu Data, ac yn 2001 hi oedd y gyntaf i’w phenodi’n Gomisiynydd Gwybodaeth. Ar hyn o bryd mae’n Ombwdsman ac yn Brif Weithredwr TOSL sydd yn gyfrifol am Wasanaethau Ombwdsman Telegyfathrebu, Arolygwyr a Chyflenwi Ynni. Yn ogystal mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar yr Asiantaeth Troseddau Trefnedig Difrifol (Serious Organised Crime Agency).
Mewn ymateb i’w phenodiad newydd dywedodd Mr France: “Mae’n fraint cael fy ngwahodd i adeiladu ar y profiad rwyf wedi ei feithrin fel Aelod Cyngor i ymgymerid â rôl Is-Lywydd. Mae llawer o gyfleoedd ar y gorwel o ran y Brifysgol. Mae angen fframwaith llywodraethol cryf arnom er mwyn ein galluogi i wneud yn fawr ohonynt, ac rwy’n edrych ymlaen i chwarae fy rhan mewn darparu hwn.”
Croesawyd y penodiad gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae penodiad Mrs France yn Is-Lywydd yn un i’w groesawi’n fawr. Bydd ei phrofiad yn amhrisiadwy i’r Brifysgol yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn ei datblygiad ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda hi.”
Yn dilyn y penodiad hwn daw Mrs France yn un o ddau Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth. Mr Winston Roddick CB QC LLM yw deiliad yr Is-Lywyddiaeth arall. Bydd Syr Emyr Jones Parry, cyn Gynrychiolydd Parhaol y DG i’r Cenhedloedd Unedig yn dechrau ar ei swydd fel Llywydd y Brifysgol yn Ionawr 2008.
Diwedd.
Gwybodaeth bellach:
Arthur Dafis, Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk