IGER i uno â'r Brifysgol
Yr Hen Goleg
04 Mai 2007
Dydd Gwener 4 Mai, 2007
Cadarnhad fod y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau am drosglwyddo'r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd i Brifysgol Cymru Aberystwyth
Mae’r Athro Noel Lloyd, Is-ganghellor a Phrifathro Prifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) wedi croesawi cyhoeddiad Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol ddydd Gwener 4 ei fod am drosglwyddo Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd i’r Brifysgol.
Mewn datganiad at staff y Brifysgol dywedodd yr Athro Lloyd:
“Mae’n dda iawn gennyf allu datgan bod Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol wedi cadarnhau ei fod am drosglwyddo Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd ym Mhlas Gogerddan, yn ogystal â’r cyllid cysylltiedig, i PCA. Bydd y corff newydd hwn yn sail i ganolfan ymchwil newydd i hyrwyddo rhagoriaeth wyddonol o safon ryngwladol ac i hybu gwybodaeth sy’n cysylltiedig ag ymchwil i’r tir. Drwy fanteisio ar y Bartneriaeth Ymchwil a Menter gyda Phrifysgol Cymru Bangor, byddwn ni’n cychwyn ar y cam nesaf, sef sefydlu Sefydliad Defnyddio’r Tir yn Gynaliadwy a fydd yn fenter ar y cyd yn cynnwys y ddwy brifysgol.
“Rwyf yn croesawu’r datblygiad hwn yn wresog iawn. Mae’r fenter yn cynnig cyfleoedd cyffrous ym maes gwyddoniaeth ac fe fydd yn rhoi cyfle i ni greu corff ymchwil a allai gystadlu ar faes rhyngwladol. Bydd yr ystod o arbenigedd ac adnoddau sydd gennym yn arwain at ymchwil a menter o safon ragorol – ymchwil bur yn ogystal ag ymchwil strategol a fydd o fudd economaidd i bob math o ddiwydiannau sy’n defnyddio’r tir ac i feysydd eraill.
“Mae bras gynlluniau’r strategaeth wyddonol i’r corff newydd wedi’u derbyn, ac fe fyddant yn cael eu datblygu ymhellach gan y Cyngor Ymchwil a’r brifysgol.
“Dyma gychwyn cadarnhaol i’r broses ac mae pob carfan yn awyddus i fwrw ymlaen cyn gyflymed â phosib. Serch hynny, bydd hi’n cymryd amser cyn i’r trafodaethau manwl ddod i ben.
“Dyma gyfle gwych i greu canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil a menter yn y gwyddorau amgylcheddol ac ym maes defnyddio tir.