University Challenge
Tim University Challenge Aberystwyth
27 Mawrth 2007
University Challenge
Wedi buddugoliaethau yn erbyn Bryste a Choleg Merton Rhydychen trechwyd tim ‘University Challenge' Aber gan dim Prifysgol Warwick yn rownd yr wyth olaf o 165 yn erbyn 130.
Cafodd aelodau'r tim, Adam McCartney (3edd flwyddyn Astudiaethau Ffilm a Theledu), Heather Charlton (2il flwyddyn Geneteg), Damon Hammond (3edd flwyddyn Saesneg), y capten Josephine Neville (3edd flwyddyn Hanes a Gwleidyddiaeth) a Rae Wright (2il flwyddyn y Gyfraith) lwyddiant yn y rownd gyntaf gan guro Bryste o 205 i 195, a Choleg Merton, Rhydychen o 180 i 170 yn yr ail rownd.
Dywedodd Damon Hammond fod y profiad yn un “anhygoel”.
“Roedd Granada TV yn un labyrinth o goridorau ac ystafelloedd y 1960au. Roedd cael colur, yna cerdded mewn i’r stiwdio i gwrdd â ‘Paxo’ (sydd, er gwaethaf ei fod yn cael ei bortreadu fel rhywun i’w ofni, yn berson hamddenol a bonheddig iawn) yn brofiad mor afreal fel nad oedden ni’n nerfus o gwbl.”
“Achos ein bod ni wedi recordio’r ddwy rownd ar ôl ei gilydd, roedden ni dal i deimlo’r ‘buzz’ a dyna beth wthiodd ni drwyddo’r cyfan! Hefyd, gan ein bod ni yn erbyn Merton; nid yn unig un o golegau gorau Rhydychen, ond roedden nhw hefyd wedi bod yn treulio pob munud yn yr ystafell werdd o flaen llaw yn craffu ar lyfryn trwchus o ‘ffeithiau mae’n rhaid i chi wybod’, aethon ni mewn yn benderfynol o fwynhau’r profiad, heb ddim disgwyliadau.”
Darlledwyd y rhaglen gyntaf o University Challenge yn 1962, ac mae 28 tim yn ymddanogs yn yn y rowndiau sydd yn cael eu darlledu.