Lansio Canolfan Ymarfer y Gyfraith
Chwith i'r dde: Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor PCA,, Ms Lowri Morgan, Rheolwraig Swyddfa Cymru Cymdeithas y Gyfraith Lloegr a Chymru, Yr Arglwydd Elystan Morgan, Adam Frewen, cynrychiolydd y myfyrwyr ar bwyllgor Staff/Myfyrwyr Cwrs Ymarfer y Gyfraith, a Samantha Johnson, Cyfarwyddwraig Canolfan Ymarfer y Gyfraith, yn agoriad y Ganolfan.
30 Mawrth 2007
Dydd Gwener 30 Mawrth 2007
Aberystwyth yn lansio Canolfan Ymarfer y Gyfraith
Mae Prifysgol Cymru, Aberystwyth wedi lansio Canolfan newydd ar gyfer Ymarfer y Gyfraith. Cafodd ei lansio'n swyddogol gan yr Arglwydd Elystan Morgan, Llywydd y Brifysgol a Barnwr wedi ymddeol, nos Iau 22ain Mawrth.
Mae'r Ganolfan, sydd wedi ei lleoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol, yn darparu rhaglenni hyfforddiant proffesiynol megis y Cwrs Ymarfer y Gyfraith a Datblygiad Proffesiynol Parhaol sydd wedi eu achredydu. Yn ogystal mae’n gyfrifol am adeiladu ar y cysylltiadau eang sydd yn bod eisioes rhwng yr Adran a’r byd cyfreithiol.
Yn ystod y noson, a ddenodd nifer o fyd y gyfraith yn o gystal â staff a myfyrwyr, cafwyd anerchiad gan Lowri Morgan, Rheolwraig Swyddfa Cymru Cymdeithas y Gyfraith Lloegr a Chymru. Rhoddodd amlinelliad o’r newidiadau diweddar yn strwythur Cymdeithas y Gyfraith ond prif fwrdwn ei chyflwyniad oedd ei dehongliad o’r newidiadau pell-gyrhaeddol yn y byd cyfreithiol a’r oblygiadau i fyfyrwyr sydd ar fin dechrau ar yrfa broffesiynol ym myd y Gyfraith.
Sefydlwyd Canolfan Ymarfer y Gyfraith yn ystod 2006 a dechreuodd ddysgu Cwrs Ymarfer y Gyfraith ar ddechrau’r flwyddyn academaidd bresennol. O dan gyfarwyddiaeth Samantha Johnson, cyn bennaeth Cyfraith Busnes yng Ngholeg Y Gyfraith Caer a chyfreithwraig fusnes ym Manceinion, mae’r ganolfan wedi denu tim o ddarlithwyr sydd â phrofiad eang ac amrywiol o weithio yn y proffesiwn.
Darlithwyr y Ganolfan yw Robert Anthony, Kathryn Devonald-Davies, Mary-Jane Horgan a’r weinyddwraig yw Rachel Tod. Ymunodd Robert Anthony a Mary-Jane Horgan yn dilyn cyfnodau yn gweithio fel cyfreithwyr a Kathryn o swyddi dysgu ar gyrsiau Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgolion Caerdydd, Morgannwg ac UWIC.
Gall Cwrs Ymarfer y Gyfraith hefyd ymffrostio yn y ffaith taw hwn yw’r cyntaf sydd â chyfreithiwr gweithredol yn dysgu’n rhan-amser arno. Mae Paul Johnson, a oedd tan yn ddiweddar yn un o bartneriaid cyfraith busnes hŷn gyda chwmni Pannone LLP, yn Bennaeth Grŵp Canoli Siambrau Kings sydd yn canolbwyntio ar ddarparu ffurfiau gwahanol o ddatrys anghydfodau. Ef oedd un o’r ieuengaf i’w benodi i ‘Solve’, panel canolwyr y ganolfan uchel ei bri ‘Centre for Effective Dispute Resolution’, ac mae’n cael cydnabyddiaeth uchel yn ‘Chambers UK’ a ‘The Legal 500’ am ei waith.
Cafodd Cwrs Ymarfer y Gyfraith, sydd yn angenrheidiol i unrhywun sydd yn dymuno gweithio fel cyfreithiwr yn Lloegr a Chymru, ei lansio yn rhannol mewn ymateb i astudiaeth gan Ganolfan Addysg Gyfreithiol y Deyrnas Gyfunol. Roedd yr astudiaeth yn pwysleisio’r duedd gynyddol i gyfreithwyr cymwys weithio i gwmnïoedd mewn trefi mawr neu ddinasoedd, gan ei gwneud yn gynyddol anodd i bobl sydd yn byw mewn trefi bychain ac ardaloedd gwledig gael gwasanaethau cyfreithiol. Mae’r cwrs yn cynnig yr opsiwn o astudio rhai agweddau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ac yn eang ei gynnwys fel ei fod yn addas i fyfyrwyr sydd yn dymuno gweithio mewn unrhyw faes arbenigol.
Dylai unrhywun sydd yn dymuno cael gwybod mwy am y cwrs gysylltu â Gweinyddydd Cwrs Ymarfer y Gyfraith Rachel Todd ar studylpc@aber.ac.uk / (01970) 622857.